Bydd mis Rhagfyr yn gyfnod o ddathlu i lawer ohonom. Efallai eich bod chi’n dathlu’r Nadolig, Hanukkah, Diwrnod Bodhi, i enwi dim ond rhai o’r dathliadau sy’n digwydd ledled Cymru a gweddill y byd y mis hwn. Mae gwyliau crefyddol a diwylliannol yn rhan bwysig o’n hunaniaethau, gan ein helpu i ddathlu ein credoau, ein gwerthoedd a’n diwylliant.
Rydyn ni’n gwybod bod gan lawer ohonoch chi gyfleoedd gwych yn eich ysgolion drwy gydol y flwyddyn i ddathlu eich hunaniaeth.
Rydym eisiau gwybod:
- beth ydych chi wedi’i wneud yn eich ysgol neu glwb i ddathlu eich hunaniaeth neu ddiwylliant?
- beth sydd wedi gweithio’n dda a beth fyddai wedi’i wneud yn well?
- sut ydych chi eisiau dysgu am ddiwylliannau eraill?
Y mis hwn mae gennym ddolen padlet yn lle arolwg.
Sleidiau a linc Padlet
Get in touch
If you have any questions or need anything else, please get in touch!