Ionawr 2026 – Y Ffordd Gywir

Mis yma rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn holiadur o’r enw ‘Y Ffordd Gywir’. 

Mae’r holiadur yma yn offeryn a fydd yn eich helpu i archwilio eich dull gweithredu seiliedig ar hawliau yn yr ysgol a nodi meysydd i’w gwella. Dyma gyfle i blant, pobl ifanc, athrawon ac arweinwyr ieuenctid rannu barn ar sut mae eich ysgol/grŵp yn cefnogi hawliau plant.

Pan fydd yr holiadur wedi cau, byddwn ni’n danfon adroddiad personol atoch yn dangos crynodeb o’r canfyddiadau. Bydd hyn yn eich cefnogi i weithio gyda phlant a phobl ifanc i nodi meysydd sydd angen gwella.  

Mae pob holiadur yn cymryd rhyw 10-15 munud. Y mwy o blant ac athrawon sy’n cymryd rhan yn eich ysgol, y mwyaf cywir fydd eich adroddiad. 

I gymryd rhan yn yr holiadur mae angen i chi gofrestru yma. 

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn derbyn côd sy’n unigryw i’ch ysgol/grŵp. Yna bydd angen i chi rannu’r côd gyda phlant, pobl ifanc a staff eich ysgol/grŵp. 

Bydd y plant a phobl ifanc cwblhau’r holiadur heb roi eu henw ac nid oes angen iddynt ateb pop cwesitwn. Mae un cwestiwn yn yr adran ‘Amdanaf Fi’ sy’n gofyn i ddisgyblion ddewis eu grŵp ethnig (efallai y bydd angen i chi egluro beth yw ystyr hwn). 

Bydd yr holiadur yn rhedeg o’r 7fed tan y 30ain o Ionawr 2026.

Gweler y sleidiau isod gall eich cefnogi i gyflawni hyn yn eich lleoliad:

Sleidiau Pwerbwynt

Argraffiad o’r Sleidiau a’r Nodiadau (agor fel pdf)

Sleidiau Google

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Os oes gennych unrhyw broblemau yn cael mynediad i’r holiadur, cysylltwch â sophie.williams@childcomwales.org.uk