Mae Mater Mis Hydref i gyd yn ymwneud â bwyd.
Ysgolion Cynradd
Ar gyfer ysgolion cynradd, rydyn ni eisiau gwybod faint rydych chi’n gwybod am y ffrwythau a’r llysiau rydych chi’n eu bwyta. 🥗
Ydych chi’n gwybod o ble maen nhw’n dod? Beth yw eich barn chi ar gael mwy o lysiau lleol yn eich ciniawau ysgol? A beth yw eich hoff lysieuyn a sut ydych chi’n hoffi ei fwyta?!
Bydd eich atebion yn helpu Synnwyr Bwyd Cymru i ddeall mwy am y math o lysiau Cymreig y mae plant eisiau eu gweld ar eu platiau a sut maen nhw eisiau iddo gael ei gyflwyno.
Ysgolion Uwchradd
Ar gyfer ysgolion uwchradd, rydym eisiau gwybod eich barn chi ar bris bwyd ysgol. Ac os oes gennych chi brydau ysgol am ddim, sut mae’r system yn gweithio yn eich ysgol.
Lincs i’r holiaduron
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw beth arall arnoch, cysylltwch â ni!