Mae’r holiaduron a gynhalion ni nôl ym mis Mai 2020 a mis Ionawr 2021 wedi dangos bod y pandemig wedi cael effaith ar lesiant llawer iawn o blant. Rydym hefyd yn gwybod bod ysgolion yng Nghymru yn gwneud llawer o waith i ofalu am eu disgyblion a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n mwynhau eu hawliau i fod yn iach ac yn ddiogel.
Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i ddarganfod sut mae eich ysgol yn cefnogi llesiant disgyblion a sut allwch chi rannu hyn gyda disgyblion eraill yn eich ysgol.