I ddathlu penblwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, rydyn ni wedi cyhoeddi cynlluniau gwers newydd er mwyn helpu plant ifanc ddysgu am eu hawliau.
Rydyn ni hefyd wedi creu cân newydd i ysgolion.
Mae hyn gyd yn rhan o’n brosiect Bitw Bach. Fel rhan o’r prosiect rydyn ni wedi gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i ddatblygu adnoddau newydd i’n ddysgwyr ieuengaf.
Cynlluniau Gwers
Mae’r pecyn yn cynnwys wyth cynllun gwers a’r adnoddau bydd eu hangen arnoch i gyflwyno hawliau plant i ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen, cynghorion defnyddiol ar gyfer cynnwys hawliau yn eich ystafell ddosbarth, phecyn lluniau and chân newydd hawliau plant.
Trwy gydol y gwersi, bydd y plant yn archwilio’r pethau sydd eu hangen arnyn nhw i dyfu i fyny yn hapus, yn iach ac yn ddiogel (eu hawliau plant). Ar ddiwedd pob gwers, bydd y plant yn ychwanegu hawl at eu Harddangosfa Dosbarth.
Darllenwch ein hawgrymiadau i ysgolion
Ein Poster Hapus, Iach a Diogel
Cân – Mae Gennym Hawliau
Dechreuir pob gwers â’r gân “Mae Gennym Hawliau”. Mae’r gân hon yn archwilio hawliau plant ac yn trafod y pethau sydd eu hangen ar blant er mwyn tyfu i fyny’n hapus, iach a diogel.
Ysgrifennwyd a chyfansoddwyd y gân gan Sara Lewis, Dyfan Jones a Blwyddyn 3 am Ysgol Gynradd Creigiau.
Mae’r gân yn ffordd wych o agor pob gwers ac yn rhywbeth y bydd y disgyblion yn ei adnabod. Awgrymwn fod eich dosbarth yn canu’r gân mewn cylch, gyda chi yn arwain ar symudiadau.
Pecyn Lluniau:
Crëwyd y lluniau hyfryd hyn gan 4 arlunydd sy’n gweithio yng Nghymru, er mwyn dysgu plant am eu hawliau, gan eu trefnu o dan bedair thema Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP): Datblygu, Goroesi, Diogelu, Cyfranogi. Gellir defnyddio’r lluniau mewn nifer o ffyrdd gwahanol.
Prosiect Bitw Bach
Bu prosiect treialu Bitw Bach ar waith am flwyddyn a buom yn gweithio gyda 13 o ysgolion ar draws Cymru. Cawsom gymorth gan ein hysgolion peilot i ffurfio’r cynlluniau gwersi a’r adnoddau ychwanegol sydd yn y pecyn hwn.
Hoffwn diolch i athrawon:
Ty Isaf Infants School
Ysgol Gymraeg Coed y Gof
Ysgol Gymraeg Gwenllian
Llantarnam Community Primary School
Malpas Court Primary School
Ysgol Penrhyn New Broughton Primary
Rachel’s Playhouse
Welshpool Church in Wales