Adnoddau Addysgu Hygyrch

Mae’r adnoddau hygyrch hyn yn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i ddysgu am eu hawliau ac am y Comisiynydd.

Anghenion Dysgu Ychwanegol – 10 cynllun gwers

Rydyn ni wedi creu 10 cynllun gwers unigol, yn ogystal â’r holl adnoddau byddwch chi angen i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, i helpu plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol i ddysgu am eu hawliau.

Ewch i’n cynlluniau gwers

Pecyn symbolau CCUHP

Pecyn lluniau Hawliau Plant

Lluniau hyfryd, wedi’u harlunio gan arlunydd proffesiynol i helpu addysgu plant am eu hawliau. Mae’r pecyn wedi’i drefnu dan bedair thema y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn: Datblygiad; Goroesiad; Diogelwch; Cyfranogiad.

Fideos

  • Fideo BSL gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd St Cyres gyda chyngor ar drafod hawliau yn eich ysgol
  • Fideo BSL yn esbonio hawliau plant
  • Animeiddiad yn esbonio ein Gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor

Posteri

Poster hawliau plant

Poster sy’n esbonio ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor

Poster yn esbonio yr hawl sydd gan blentyn i fod yn Hapus, Iach a Diogel

Rydyn ni wrthi’n gyson yn datblygu adnoddau hygyrch newydd. Os hoffai athrawon neu ddisgyblion ein helpu i ddatblygu adnodd, neu os oes adnodd y byddech chi’n hoffi ei weld ar y dudalen yma, cysylltwch â ni.