Adnoddau Prosiect Pleidlais 2021-2022

Hoffech chi wybod sut y gall eich disgyblion ddysgu mwy am eu pleidlais? Ar y dudalen hon fe welwch ein holl adnoddau Prosiect Pleidlais 2021-2022. Cyhoeddwyd yr adnoddau hyn i gyd-fynd ag Etholiad Cyngor Lleol 2022.

Cynlluniau Gwersi 1-3

Mae’r gwersi yma’n helpu disgyblion i:

  • ddysgu mwy am yr etholiadau lleol
  • deall cyfrifoldebau’r cyngor
  • dysgu mwy am gynghorwyr a’u rôl

Rydyn ni hefyd wedi cynnwys:

  • Canllaw i athrawon
  • Powerpoints ar gyfer pob wers

Cynlluniau Gwersi

Canllawiau

Powerpoints

Cynllun Gwers 4

Bydd Gwers 4 yn helpu disgyblion i ymchwilio ymgeiswyr, ac i baratoi i bleidleisio yn yr etholiad paralel

Defnyddiwch y fersiwn Cyn y Pasg os rydych chi’n dysgu’r wers am y tro cyntaf cyn gwyliau’r Pasg

Defnyddiwch y fersiwn ar ôl y Pasg os rydych chi’n dysgu’r wers am y tro cyntaf ar ôl gwyliau’r Pasg.

Pecynnau Dysgu Adre

Fersiynau o’r gwersi uchod yw’r pecynnau dysgu adre.

Ond mae’r cynnwys tipyn yn fyrrach.

Mae yna PowerPoint gyda sain, a llyfryn Word er mwyn i ddisgyblion ysgrifennu eu hatebion.

Cynlluniau Gwersi Hygyrch

Mae’r gwersi yma’n cynnig fersiwn mwy syml a hygyrch o’r cynlluniau gwers uchod. Gallech chi eu defnyddio mewn lleoliad lle mae angen help ychwanegol ar bobl ifanc, e.e. mewn ysgol arbennig.

Maen nhw’n cynnwys sgaffaldwaith i gefnogi dysgu a dealltwriaeth disgyblion.

Cynlluniau Gwersi CA2

Mae’r gwersi yma’n cynnig dysgu mwy syml a hygyrch. Gallech chi eu defnyddio i ddysgu plant CA2.

Maen nhw’n cynnwys sgaffaldwaith i gefnogi dysgu a dealltwriaeth disgyblion.