I ddathlu penblwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 30eg oed, rydyn ni wedi cyhoeddi cynlluniau gwers newydd er mwyn helpu plant ifanc ddysgu am eu hawliau.
Rydyn ni hefyd wedi creu cân newydd i ysgolion.
Mae hyn gyd yn rhan o’n brosiect Bitw Bach. Fel rhan o’r prosiect rydyn ni wedi gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i ddatblygu adnoddau newydd i’n ddysgwyr ieuengaf.
Buom yn gweithio gyda 13 o leoliadau ar draws Cymru i lunio’r cynlluniau gwersi a’r adnoddau. Hoffem ddiolch i athrawon a disgyblion yn: Ty Isaf Ifants School, Ysgol Gymraeg Coed y Gof, Ysgol Gymraeg Gwenllian, Llantarnam Community Primary School, Ysgol Penrhyn New Broughton Primary, Rachel’s Playhouse a Welshpool Church in Wales.
Mae’r pecyn yn cynnwys wyth cynllun gwers. Trwy gydol y gwersi, bydd plant yn archwilio’r pethau sydd eu hangen arnynt i dyfu i fyny yn hapus, yn iach ac yn ddiogel (hawliau eu plant).
Mae’r cynlluniau gwersi hyn wedi’u creu fel rhan o brosiect “Fi yw Fi” Comisiynydd Plant Cymru sy’n dathlu hunaniaeth. Yn y gwersi hyn bydd y ffocws yn benodol ar hawliau plant. Bydd y gwersi yn canolbwyntio ar:
Er bod plant o dan 16 yn methu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gan holl blant Cymru hawl i gael eu gwrando a’u cymryd o ddifri (Erthygl 12).
Efallai bydd plant yn teimlo nad ydyn nhw’n derbyn rhai o’u hawliau ar hyn o bryd, neu efallai byddan nhw’n teimlo’n angerddol am fater arbennig, ac eisiau creu newid.
Rydym wedi paratoi dwy wers ar etholiadau’r Senedd a democratiaeth i chi wneud yn yr ystafell dosbarth.
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i wella profiadau defnyddwyr. Am y manylion llawn, gweler ein Polisi Preifatrwydd. Cliciwch Caniatáu os ydych chi'n hapus i ni wneud hyn. Gallwch hefyd ddewis gwrthod pob cwci dewisol drwy glicio Gwrthod.