Cafodd plant a phobl ifanc o bob rhan o Dde Cymru gyfle i siarad yn uniongyrchol â’r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, heddiw (14 Hydref 2026) yn ystod ymweliad â swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yn Abertawe.
Daeth yr ymweliad â phobl ifanc o amrywiaeth o sefydliadau (EYST, Mixtup, Ysgol Afon Wen a Hope) ynghyd i drafod rhai o’r materion sy’n cael yr effaith fwyaf ar eu bywydau, gan gynnwys trafnidiaeth, hawliau plant anabl, tlodi plant a gofal cymdeithasol.
Dechreuodd yr ymweliad gyda chyfarfod rhwng y Prif Weinidog a Chomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, lle trafodwyd Adroddiad Blynyddol 2025-26 y Comisiynydd, a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r materion a’r pryderon y mae plant a phobl ifanc ledled Cymru wedi’u lleisio i’r Comisiynydd, ac yn cynnwys argymhellion i wella hawliau a llesiant plant.
Yna bu’r Prif Weinidog a’r Comisiynydd yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda phlant a phobl ifanc, a rannodd eu profiadau personol a’r newidiadau yr hoffent eu gweld gan y sawl sy’n gwneud penderfyniadau.
Ymhlith y rhai a gymerodd ran roedd disgyblion o Ysgol Afon Wen, a fu’n trafod yr effaith y gall problemau trafnidiaeth ei chael ar ddiogelwch, addysg a chyfleoedd plant a phobl ifanc.
Dywedodd Neveah, disgybl yn Ysgol Afon Wen:
“Diolch am wrando ar fy llais a deall yr effaith mae diffyg trafnidiaeth ysgol yn ei chael ar ein diogelwch.”
Tynnodd Calon, disgybl arall o Ysgol Afon Wen, sylw at bwysigrwydd trafnidiaeth hygyrch i blant a phobl ifanc anabl.
“Buom yn trafod beth sydd angen newid er mwyn i blant a phobl ifanc anabl allu cael mynediad at drafnidiaeth ysgol, a pha mor bwysig yw hi bod gan bob un ohonom yr hawl i addysg.”
Bu’r trafodaethau hefyd yn canolbwyntio ar brofiadau plant a phobl ifanc anabl, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sydd â phrofiad o’r system ofal.
Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:
“Mae plant a phobl ifanc yn arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain, ac roedd trafodaethau heddiw yn gyfle pwysig i’r Prif Weinidog glywed yn uniongyrchol am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Rwy’n falch bod pobl ifanc heddiw wedi gallu arfer eu hawl i gael eu clywed yn uniongyrchol, sef Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
“Boed yn trafod trafnidiaeth, anabledd neu brofiadau o ofal cymdeithasol, rhannodd pobl ifanc syniadau a safbwyntiau gwerthfawr am sut y gall Cymru fod yn lle gwell i fabanod, plant a phobl ifanc.”
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd Plant am y gwahoddiad i gyfarfod â hi heddiw a siarad â’r bobl ifanc i glywed beth sy’n bwysig iddyn nhw.
“Mae dull sy’n seiliedig ar hawliau yn gyrru ein ffocws ar wella bywydau babanod, plant a phobl ifanc. Boed drwy roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant ieuengaf drwy well mynediad at ofal plant, ein buddsoddiad ychwanegol mewn cefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, neu alluogi mwy o blant i dderbyn prydau ysgol am ddim – rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru’r cyfle i gyflawni ei botensial.”
Daeth yr ymweliad ar yr un diwrnod â chyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2025-26 Comisiynydd Plant Cymru, sy’n galw am weithredu mewn nifer o feysydd, gan gynnwys hawliau plant, tlodi plant, anghenion dysgu ychwanegol, cyfranogiad ac atebolrwydd.
