Yn y cyfnod cynnar hwn o’r Seithfed Senedd, rwyf wedi bod yn falch iawn o weld y mater yn ymwneud â babanod, plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael ei drafod yn y Siambr fel rhan o drafodaeth ar Fil arfaethedig ynghylch rhianta corfforaethol. Er fy mod yn croesawu archwiliad o rinweddau dull statudol o gymharu â dull gwirfoddol, y peth pwysicaf yw bod Aelodau’r Senedd a gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu ac yn rhoi sylw priodol i anghenion babanod, plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac yn bwysicaf oll, yn cymryd camau i wella’r gofal a’r gefnogaeth a gânt ac i ddarparu cyfleoedd iddynt ffynnu.
Gan weithio gyda rhanddeiliaid o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, rwyf wedi galw ar Lywodraeth newydd Cymru i sicrhau bod babanod, plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn ogystal â theuluoedd sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol, yn flaenoriaeth ynRhaglen Lywodraethu sydd i ddod. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Gweinidogion ac Aelodau’r Senedd i sicrhau bod newid sylweddol er gwell yn cael ei wneud i fywydau’r babanod, y plant a’r bobl ifanc hyn.