12 Mehefin 2026
Fel llawer ohonom, rwyf wedi dychryn a thristáu oherwydd y trais ac anhrefn sydd wedi bod yn digwydd ym Melfast dros y dyddiau diwethaf. Mae fy nghydymdeimladau yn mynd at deuluoedd y dioddefwr yn y drosedd gychwynnol a sbardunodd yr anhrefn, ac at y teuluoedd, y plant a’r bobl ifanc sydd bellach yn teimlo’n ofnus ac yn anniogel yn wyneb ymosodiadau wedi’u targedu yn erbyn unigolion a ystyrir yn ‘ymfudwyr’ neu’n dramorwyr.
Yn anffodus, yn enwedig oherwydd y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, mae ofn ac anhrefn yn lledaenu’n gyflym, ac rwy’n gwybod bod plant yng Nghymru hefyd yn teimlo’n ofnus ac yn anniogel. Rwy’n galw ar bawb sydd mewn safle o gyfrifoldeb a grym i sicrhau bod eu geiriau a’u camau yn helpu i dawelu tensiynau, herio camwybodaeth a rhoi sicrwydd i bob cymuned, yn enwedig y rheini sy’n teimlo’n fwyaf bregus ar hyn o bryd.
Mae’r digwyddiadau hyn hefyd wedi fy annog i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed yng Nghymru ers cyhoeddi fy adroddiad ‘Cymerwch y peth o ddifri’: Profiadau Plant o Hiliaeth mewn Ysgolion Uwchradd’. Roedd yr adroddiad hwnnw’n nodi argymhellion clir i sbarduno newid ystyrlon ac i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn profi system addysg, a chymdeithas ehangach, sy’n wrth-hiliol yn weithredol.
Yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd clir i blant a phobl ifanc ledled Cymru bod yr ymrwymiad hwn yn parhau’n gadarn. Ni ddylai unrhyw blentyn neu berson ifanc deimlo’n anniogel, wedi’i eithrio neu’n ofnus oherwydd ei hunaniaeth, ei gefndir neu ei wahaniaeth canfyddedig. Rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i sicrhau bod yr uchelgais o Gymru wrth-hiliol nid yn unig yn cael ei chynnal ond ei chyflymu.
Nid oes lle i hiliaeth, casineb na thrais yn ein cymdeithas. Mae gennym oll gyfrifoldeb ar y cyd i sefyll yn erbyn rhaniad ac i gefnogi ein gilydd, yn enwedig plant a phobl ifanc a all fod yn ei chael yn anodd deall yr hyn y maent yn ei weld ac yn ei glywed.
Mewn adegau fel hyn, mae arweinyddiaeth weladwy a negeseuon clir yn hanfodol. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i fynd i’r afael â hiliaeth ym mhob ffurf, i ddangos sut mae’n parhau i weithredu ar yr argymhellion a nodwyd eisoes, ac i roi sicrwydd clir i blant a phobl ifanc ledled Cymru eu bod yn ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu diogelu.
Mae ymgyrchoedd fel ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwn, gan helpu i herio gwahaniaethu, cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt, a hyrwyddo dealltwriaeth ac undod. Mae’n hollbwysig bod y negeseuon hynny’n cyrraedd plant a phobl ifanc drwy eu hysgolion, eu cymunedau a’r sianeli cyfathrebu y maent yn eu defnyddio. Mae’n hanfodol bod yr ymdrechion hyn yn cael eu cryfhau fel bod plant a phobl ifanc yn gwybod eu bod yn cael eu cefnogi ac nad oes lle i gasineb yng Nghymru.
Rwyf am ailddatgan ein hymrwymiad i sefyll ochr yn ochr â’r rhai yr effeithir arnynt, i wrando’n ofalus ar bryderon plant a phobl ifanc, ac i weithio gyda phartneriaid i sicrhau eu diogelwch, eu lles a’u hymdeimlad o berthyn.