Datganiad CPC ar Gyhoeddiad Llywodraeth y DU i Wahardd Cyfryngau Cymdeithasol i’r Sawl o dan 16 oed

15fed Mehefin 2026

Mae cynllyn Llywodraeth y DU i gyfyngu ar fynediad i gyfryngau cymdeithasol i’r sawl o dan 16 oed yn ddatblygiad arwyddocaol, sy’n adlewyrchu pryder gan deuluoedd ynghylch profiadau plant ar-lein.

O’m hymgysylltiad â miloedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru, rwy’n glir ynghylch dau beth. Yn gyntaf, mae’r risgiau y mae plant yn eu hwynebu ar-lein yn real ac, mewn rhai achosion, yn ddifrifol, gan gynnwys dod i gysylltiad â chynnwys niweidiol, bwlio, pwysau sy’n cael ei rhoi gan ddyluniad platfformau, a chyswllt â dieithriaid. Yn ail, nid yw lleoedd digidol yn ddatgysylltiedig o blentyndod; maent yn ganolog i’r ffordd y mae plant yn cysylltu â ffrindiau, mynegi eu hunain, dysgu, a chael mynediad at gymorth.

Dyna pam na ellir ymdrin â hyn fel cwestiwn syml o dynnu plant allan o’r byd ar-lein. Y prif fater yw – a yw’r amgylcheddau y maent yn eu defnyddio yn ddiogel.

Rwy’n cydnabod pam bod y Llywodraeth yn cynnig gweithredu cryfach, ac mae rhinwedd mewn archwilio ffiniau cliriach o ran mynediad, yn enwedig pan fydd hyn yn helpu i ysgogi newid sydd wedi bod ei angen ers tro. Mae cynyddu disgwyliadau ynghylch yr hyn sy’n briodol o ran oedran ar-lein yn anfon neges bwysig ac yn adlewyrchu pryder cynyddol y cyhoedd.

Fodd bynnag, ni fydd cyfyngiadau ar sail oedran yn unig yn gwneud y rhyngrwyd yn fwy diogel. Mae tystiolaeth gan blant yn dangos nad yw niwed wedi’i gyfyngu i grŵp cul o blatfformau, ac y bydd pobl ifanc yn aml yn dod o hyd i ffyrdd o osgoi cyfyngiadau lle mae bywyd digidol mor bwysig iddynt. Mae perygl gwirioneddol y gall gweithgarwch symud i ofodau llai gweladwy neu lai rheoledig os yw’r ffocws yn rhy gyfyng.

I mi, nid y cwestiwn pwysicaf yw a ddylai plant gael bod ar gyfryngau cymdeithasol yn unig, ond a yw cyfryngau cymdeithasol, a’r ecosystem ddigidol ehangach, wedi’u dylunio a’u rheoli mewn ffordd sy’n ddiogel i blant yn y lle cyntaf.

Dyma lle y mae’n rhaid symud y cyfrifoldeb.

Am rhy hir, mae’r baich o reoli risg ar-lein wedi’i osod ar blant, rhieni ac ysgolion. Nid yw hynny’n deg nac yn effeithiol. Cwmnïau technoleg sy’n dylunio’r amgylcheddau hyn, yn rheoli’r systemau sy’n siapio profiadau plant, ac yn elwa ohonynt. Felly, mae’n iawn eu bod yn berchen llawer mwy o gyfrifoldeb dros sicrhau bod y amgylcheddau hynny’n ddiogel wrth eu dylunio.

Mae hyn yn golygu mynd y tu hwnt i fynediad yn unig a chanolbwyntio’n llawer mwy uniongyrchol ar y nodweddion a’r systemau sy’n creu niwed, gan gynnwys algorithmau caethiwol, cyswllt â dieithriaid, dyluniad perswadiol sy’n gyrru defnydd gormodol, a safoni gwan. Bydd rheoleiddio cryfach, safonau cliriach, a gorfodi ystyrlon yn hanfodol os ydym am weld newid go iawn.

Rwy’n croesawu ffocws y Llywodraeth ar gyfyngu ar swyddogaethau risg uchel, megis ffrydio byw a rhyngweithio â defnyddwyr anhysbys, yn ogystal â’r bwriad i gryfhau sicrwydd oedran. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu’r hyn y mae plant yn dweud wrthym, sef mai nodweddion a phenderfyniadau dylunio penodol, yn hytrach na llwyfannau unigol, sy’n aml yn creu risg.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae ehangu oedran dilysu cadarn i blatfformau gemau a gwasanaethau rhyngweithiol eraill hefyd yn gam pwysig. Mae profiadau plant yn dangos yn glir bod y gofodau hyn yn aml yn gweithredu fel amgylcheddau cymdeithasol, gyda risgiau tebyg o ran cyfathrebu, cynnwys a chyswllt â dieithriaid. Bydd sicrhau safonau cyson ar draws yr ecosystem ddigidol ehangach yn hanfodol os yw diogeliadau am fod yn ystyrlon mewn ymarfer.

Rhaid i unrhyw ddiwygiadau hefyd fod wedi’u gwreiddio mewn hawliau plant. Mae gan blant yr hawl i gael eu diogelu rhag niwed, ond hefyd i gymryd rhan, cael mynediad at wybodaeth, a chysylltu ag eraill. Rhaid cydbwyso’r hawliau hyn yn ofalus, a rhaid i blant eu hunain fod yn rhan o lunio’r atebion.

Gyda deddfwriaeth yn cael ei rhagweld i ddod i rym yn 2027, mae nawr ffenestr feirniadol i sicrhau bod y cynigion hyn yn cael eu datblygu mewn ffordd sy’n wirioneddol adlewyrchu profiadau byw plant. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru, fel bod eu lleisiau’n llywio sut mae’r newidiadau hyn yn cael eu dylunio, eu gweithredu a’u gorfodi.

Yn hollbwysig, os ydym o ddifrif ynghylch cefnogi plentyndod iachach, mae’n rhaid inni edrych yn gyfan gwbl y tu hwnt i’r byd ar-lein. Mae plant yn dweud wrthym yn gyson eu bod yn gwerthfawrogi amser gyda ffrindiau, chwarae, a threulio amser yn eu cymunedau. Ni ellir lleihau dibyniaeth ar ofodau digidol drwy gyfyngiadau yn unig. Mae angen buddsoddiad sylweddol a pharhaus mewn gwasanaethau ieuenctid, darpariaeth gymunedol, mannau diogel i gymysgu, a mynediad i chwaraeon, y celfyddydau a chyfleoedd creadigol.

Heb hyn, mae perygl ein bod yn canolbwyntio’n unig ar le na all plant fynd, heb gryfhau’r mannau y gallant fynd iddynt.

Yn y pen draw, os yw hyn am arwain at newid ystyrlon, rhaid mynd y tu hwnt i’r ddadl am wahardd mynediad. Mae’n rhaid arwain at newid mwy sylfaenol, sy’n caniatáu amgylchedd digidol mwy diogel, yn fwy atebol, ac wedi’i ddylunio gyda lles plant wrth ei galon, ochr yn ochr ag ymrwymiad o’r newydd i’r cyfleoedd byd go iawn y mae eu hangen ar bob plentyn i ffynnu.

Nid yw plant eisiau cael eu heithrio o’r byd ar-lein. Maent eisiau bod yn ddiogel ynddo. Dylai ein ffocws fod ar wneud hynny’n realiti.