Mae adolygiad i sut y gwnaeth yr Eglwys yng Nghymru ymdrin â honiadau yn erbyn Anthony Pierce – cyn Esgob Abertawe ac Aberhonddu – wedi datgelu cyfres o fethiannau difrifol dros sawl degawd. Roedd uwch glerigwyr yn gwybod am bryderon cam-drin rhywiol yn y 1990au ond ni wnaethant eu hadrodd i’r heddlu tan 2010.
Cafodd Pierce, a wasanaethodd fel Esgob o 1999 i 2008, ei garcharu y llynedd am gam-drin bachgen yn rhywiol yn y 1980au tra’n gwasanaethu fel offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe. Canfu’r adolygiad newydd, er gwaethaf pryderon diogelu cynharach yn hysbys ar lefelau uchaf yr Eglwys, fod Pierce wedi cael ei ddyrchafu i rolau uwch o hyd.
Wrth siarad ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes MBE, fod y canfyddiadau’n “cadarnhau cyfleoedd a gollwyd a phryderon na chawsant eu trin yn iawn,” gan ychwanegu bod yr achos yn dangos “pam mae goruchwyliaeth annibynnol o drefniadau diogelu mewn lleoliadau ffydd yn parhau i fod yn hanfodol.”
Dywedodd Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru:
“Rhaid i blant a goroeswyr fod yn hyderus y bydd eu pryderon yn cael eu gweithredu’n gadarn ac yn ddiduedd, nid eu lleihau na’u hanwybyddu. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr angen clir am lwybr datgelu cryf a diogel i unigolion o fewn sefydliadau allu codi pryderon heb ofni canlyniadau negyddol. Byddaf yn trafod hyn eto gyda Llywodraeth Cymru, a byddaf yn ceisio cyfarfod â’r Eglwys yng Nghymru i drafod eu hymateb.”
Mae’r Comisiynydd Plant bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru a sefydliadau ffydd i gyflwyno cyfres o ddiwygiadau pendant y mae hi’n credu y byddent yn cryfhau diogelu plant yng Nghymru, gan gynnwys:
- Gofyniad am lwybr datgelu clir a diogel o fewn lleoliadau ffydd;
- Goruchwyliaeth annibynnol o ddiogelu mewn sefydliadau crefyddol – dod â’r model hunanblismona presennol i ben;
- Llywodraethu cenedlaethol cryfach, gan gynnwys ystyried Awdurdod Diogelu Plant i gau bylchau goruchwylio hirhoedlog.
Mae’r Comisiynyddt yn credu bod yr adolygiad presennol o lywodraethu diogelu yng Nghymru yn foment bwysig i gryfhau amddiffyniadau a sicrhau bod bylchau fel y rhai a amlygwyd yn yr achos hwn yn cael eu mynd i’r afael â nhw o’r diwedd.
Cydnabu hefyd ddewrder y rhai a ddaeth ymlaen, gan ddweud bod “plant ac oedolion yr effeithir arnynt gan gam-drin yn haeddu cefnogaeth amserol, wedi’i llywio gan drawma a llwybrau clir i godi pryderon, y dylid gweithredu arnynt bob amser.” Dylai eu profiadau, meddai, “arwain y gwelliannau sy’n dilyn.”