“Mae tlodi plant yng Nghymru yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Mae tua un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn tyfu i fyny mewn tlodi; y gyfradd tlodi plant uchaf o unrhyw genedl yn y DU. Nid realiti anochel yw hwn; mae’n ganlyniad benderfyniadau gwleidyddol.
“Rwy’n hynod o bryderus am y cynnydd mewn tlodi dwfn ymhlith plant. Mae cynnydd yn y nifer o blant sy’n byw mewn teuluoedd lle mae eu hincwm mor isel, na allant fforddio pethau sylfaenol fel bwyd, gwresogi, dillad a hanfodion eraill. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod tlodi dwfn yn tyfu, a gall effaith hyn ar iechyd, datblygiad a lles plant fod yn gydol oes.
“Mae plant eu hunain yn dal i ddweud wrthym sut beth yw tlodi. Maen nhw’n dweud eu bod yn poeni am beidio cael digon i’w fwyta, ac mae ysgolion yn rhannu straeon am blant yn cyrraedd gyda phecynnau cinio annigonol neu esgidiau â thyllau wedi’u stwffio â phapur. Dyma brofiadau go iawn gan blant yma yng Nghymru heddiw.
“Mae tlodi plant yn argyfwng hawliau plant. Mae’n tanseilio hawliau plant i ddiogelwch, addysg, iechyd, urddas a safon byw dda. Mae Cymru wedi ymrwymo i gynnal yr hawliau hyn, ond mae gormod o blant yn dal i gael eu gwrthod.
“Rwy’n glir ynghylch y camau mae disgwyl i Lywodraeth nesaf Cymru eu cymryd. Mae gofynion fy Maniffesto yn nodi mesurau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, mesuradwy i fywydau plant:
- Cyflwyno Taliad Plant Cymru i hybu incwm teuluoedd.
- Ymestyn prydau ysgol am ddim cyffredinol i ddisgyblion uwchradd.
- Sicrhau y gall teuluoedd gael mynediad hawdd at holl fudd-daliadau Cymru, gan gynnwys cofrestru awtomatig.
- Ehangu darpariaeth gwyliau Bwyd a Hwyl i gyrraedd plant sydd â’r angen mwyaf.
“Rhaid i Gymru hefyd gael cynllun tlodi plant sy’n nodi camau gweithredu clir a chanlyniadau mesuradwy. Nid yw’r dulliau presennol yn cyd-fynd â maint yr her. Mae angen strategaeth arnom sy’n cyflawni newid gwirioneddol ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif am leihau tlodi plant.
“Nid yw tlodi plant yn naturiol nac yn anochel; mae’n ataliadwy. Mae gennym y dystiolaeth, mae gennym yr offer, ac mae gennym rwymedigaeth foesol i weithredu. Rwy’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wneud ymrwymiadau beiddgar ac uchelgeisiol fel y gall pob plentyn yng Nghymru dyfu i fyny gydag urddas, diogelwch a gobaith.”