Wrth i’r ymgynghoriad diweddar ar ddileu elw o ofal cymdeithasol plant ddod i ben, mae’n bwysig ailadrodd pa mor bwysig a chroesawgar yw cyflwyno’r polisi hwn a’i fod yn cael ei weithredu gydag amserlen glir. Mae plant a phobl ifancwedi bod yn glir na ddylid gwneud elw o’u gofal, ac mae tynnu elw o’u gofal yn enghraifft o bolisi sy’n cael ei lywio gan lais plant a phobl ifanc.
Fodd bynnag, er mwyn i’r polisi hwn gael ei weithredu’n llwyddiannus, rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi rhanddeiliaid cymaint â phosibl. Mae hyn yn golygu sicrhau bod mwy o gyfathrebu â darparwyr gofal ynghylch tynnu elw o ofalcymdeithasol plant; digon o fuddsoddiad i gefnogi darparwyr y sector preifat i drawsnewid i ddarpariaeth ddi-elw; a bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi i sicrhau bod digon o ddarpariaeth gofal ddi-elw yn eu hardaloedd.
Yn olaf, ni ddylai’r newid i ddarpariaeth ddi-elw arwain at amharu ar y gofal a’r gefnogaeth a ddarperir i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Rhaid cyfathrebu’n glir am y newid i ddarpariaeth gofal yng Nghymru gyda phlant a phobl ifancsydd â phrofiad o ofal, yn ogystal â’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn ystod y cyfnod pontio.