Ymateb y Comisiynydd i benderfyniad ‘Of Mice and Men’

Wrth sôn am ddileu ‘Of Mice and Men’ o’r maes llafur TGAU o 25 Medi, dywedodd Rocio Cifuentes MBE: 

‘Rwy’n croesawu’r symudiad hwn o CBAC i beidio â chynnwys ‘Of Mice a Men’ yn y cwricwlwm o 2025 ymlaen. Rwyf wedi clywed fy hun trwy ymchwil a gyhoeddwyd gan fy swyddfa y llynedd am effaith negyddol y testun hwn ar ddysgwyr du a lleiafrifoedd ethnig, oherwydd ei ddefnydd o sarhad hiliol. Dywedodd pobl ifanc wrthyf pa mor anghyfforddus a phendant yr oeddent yn teimlo yn ystod y trafodaethau hyn. Hefyd rwyf yn pryderu am yr effaith normaleiddio y gallai hyn ei chael ar iaith hiliol. 

Nid yw hyn yn ymwneud â sensoriaeth, mae hyn yn ymwneud â sicrhau nad yw trafodaethau pwysig ar hiliaeth yn y gorffennol ac yn y presennol, yn anfwriadol yn achosi niwed a thrawma pellach i’n dysgwyr, ac mae llawer o destunau eraill ar gael yn y maes llafur newydd sy’n cynnig y cyfle hwn.’