Ymateb i adroddiad yr ymholiad Covid

Yn ymateb i’r adroddiad gan yr ymholiad Covid ar 20 Tachwedd, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

‘Wrth ddarllen y cyfrolau hyn, mae fy meddwl yn troi at y plant a theuluoedd a gafodd eu heffeithio mor ddwfn gan y pandemig. Mae’r effeithiau hynny’n dal i gael eu teimlo heddiw. Er nad oedd ffocws penodol gan y modiwl hwn ar blant, rwy’n sicr bod tystiolaeth y swyddfa hon a thystiolaeth eraill sy’n cynrychioli profiadau plant wedi’i hamlygu a bod yr effaith ddinistriol ar fywydau plant wedi’i chydnabod. Nid oes amheuaeth bod cenhedlaeth o blentyndod wedi’u heffeithio, ac mae gan ein Llywodraeth dyletswydd i wrando ar wersi’r ymholiad hwn ac i ymrwymo i sicrhau bod plant yn cael blaenoriaeth a bod cynllunio digonol ar waith ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.’