Ymateb i Adolygiad Ymarfer Plant Neil Foden

4 Tachwedd 2025

Mae’r Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i adolygiad ymarfer plant Neil Foden:

Cyfleoedd wedi eu colli

Mae’r adroddiad yn frawychus. Nid yn unig oherwydd nifer y plant a gafodd eu cam-drin gan Foden ac yr amser a pharhaodd hyn, ond hefyd nifer y cyfleoedd a gollwyd i’w atal rhag cam-drin plant. Dro ar ôl tro, roedd methiannau i wrando ar blant, a methiannau gan bobl a ddylai fod wedi gweithredu a gan sefydliadau a ddylai fod wedi eu hamddiffyn. Yn rhy aml, cafodd eu penderfynu fod trothwyon penodol heb wedi eu cyrraedd i sbarduno camau gweithredu effeithiol mewn ymateb i gwynion neu bryderon. Mae angen i ni sicrhau bod ein system diogelu yn galluogi ac yn cefnogi gweithio amlasiantaethol a chwilfrydedd proffesiynol, a bod mecanweithiau sicrwydd ansawdd effeithiol i sicrhau dull diogelu sy’n seiliedig ar hawliau plant. Fy ngalwad i Lywodraeth Cymru yw sicrhau bod y gwersi o’r adolygiad hwn a rhai hanesyddol sydd wedi cyffwrdd â’r un materion yn cael eu hystyried wrth gwblhau diweddariadau i Weithdrefnau Diogelu Cymru (adran pump).

Themau cyson

Mae themâu fel rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, diffygion mewn cadw cofnodion, diffyg chwilfrydedd proffesiynol, hyfforddiant annigonol, ac ymatebion amlasiantaeth anghyson wedi bod yn themâu ailadroddus mewn adolygiadau ymarfer plant. Dylai eu presenoldeb cyson godi cywilydd cenedlaethol, ac er mwyn osgoi ailadroddiadau pellach o’r methiannau hyn, dylai’r adroddiad hwn fod yn drobwynt gwirioneddol yn y ffordd y mae’r system amddiffyn plant yn gweithredu yng Nghymru. Ers dod yn Gomisiynydd Plant, rydw i wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i gryfhau trefniadau diogelu cenedlaethol. Hyd yn hyn, rydym wedi methu’n amlwg â dysgu’r gwersi a gweithredu’r argymhellion a nodwyd o adolygiadau blaenorol ac rwy’n falch bod fy ngalwadau wedi arwain at Llywodraeth yn cyhoeddi adolygiad diogelu cenedlaethol yn ddiweddar. Rhaid i’r adolygiad hwn fynd i’r afael â’r gwendidau ystyfnig hyn a rhaid iddo symud ymlaen ar frys.

Dyrchafu lleisiau plant

Mae gwrando’n weithredol yn hanfodol mewn dull diogelu sy’n seiliedig ar hawliau plant. Mae’r ffaith bod yr adolygiad wedi canfod bod safbwyntiau a phrofiadau plant heb eu hystyried yn ddigonol yn fethiant systemig enfawr. Rhaid codi lleisiau plant nid yn unig mewn polisïau cenedlaethol (a ddigwyddodd o ganlyniad i Ymchwiliad Clywch), ond hefyd o fewn arferion cyrff statudol yng Nghymru. Rhaid bod hyn yn flaenoriaeth genedlaethol allweddol, ac yn ddisgwyliad clir, yn enwedig o ran materion diogelu.

Llywodraethwyr

Mae gan Lywodraethwyr Ysgol rôl hanfodol i’w chwarae ym mywyd yr ysgol: wrth ddwyn arweinyddiaeth yr ysgol i gyfrif, ac wrth gadw plant yn ddiogel. Ar ôl galw’n ddiweddar am adolygiad o lywodraethu ysgolion, rwy’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i adolygu rôl llywodraethwyr – mae angen cyrff llywodraethu cryf ar blant sy’n dwyn eu penaethiaid i gyfrif yn briodol, ac sydd â lles plant wrth wraidd eu gwaith. Dydy hyn ddim bob amser yn digwydd ac mae’n dibynnu ar unigolion yn hytrach na system cryf. Mae’n rhaid i hyn newid a rydw i’n yn disgwyl i’r dysgu o’r adolygiad hwn gael ei adlewyrchu a ffurfio rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru.

Cyngor

Os rwyt ti’n blentyn neu’n berson ifanc sy’n poeni am rywbeth yn dy fywyd ysgol neu gartref sydd ddim yn teimlo’n iawn – mae yna bobl a sefydliadau sydd yma i wrando arnat ti ac yma i dy helpu. Mae gen i dîm Cyngor gallet ti ffonio neu e-bostio, ac mae yna bobl eraill a all helpu fel Childline, yr NSPCC, a Meic.

Os ydych chi’n oedolyn sy’n gweithio gyda phlant ac yn poeni nad yw plant yn eich gofal yn ddiogel, mae’n hanfodol eich bod chi’n codi pryderon. Os dydych chi ddim yn teimlo bod y pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif, rhaid i chi gysylltu â sefydliad allanol. Mae fy swyddfa yn chwythwr chwiban rhagnodedig, sy’n golygu y byddwch chi’n cael eich amddiffyn gan y gyfraith os byddwch chi’n codi pryderon am eich cyflogwr.

Cadw plant yn ddiogel nawr

Mae gan yr adroddiad set gynhwysfawr o argymhellion y mae’n rhaid iddynt nawr arwain nid yn unig at newid prydlon yn lleol yng Ngwynedd, ond at newid cenedlaethol effeithiol i weithdrefnau amddiffyn plant yng Nghymru. Ond bydd llawer o’r newidiadau a’r adolygiadau parhaus yn cymryd amser. Yn y cyfamser, mae’n hanfodol bod yr adroddiad hwn yn atgoffa pawb sy’n gweithio â phlant am eu cyfrifoldeb i gadw plant yn ddiogel – i wrando ar blant ac i weithredu ar bryderon.