Ymateb y Comisiynydd i Gynllun Ymateb Cyngor Gwynedd

Yn ymateb i gynllun ymateb Cyngor Gwynedd, dywedodd Rocio Cifuentes MBE: 

“Rydw i’n croesawu’r cam cadarnhaol hwn gan Gyngor Gwynedd. Mae’r cynllun ymateb yn dryloyw ac yn ffocysu ar ddioddefwyr. Y cam nesaf hanfodol fydd monitro ei weithrediad yn drylwyr. 

“Gyda chynllun ymateb y cyngor bellach wedi’i gyhoeddi, mae angen i ni weld yr un tryloywder gan y bwrdd diogelu rhanbarthol. Gydag ymchwiliadau amrywiol yn digwydd erbyn hyn, mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed bod cylch gorchwyl yr Adolygiad Ymarfer Plant, a gynhelir gan banel annibynnol ar ran y bwrdd diogelu, yn cael ei gyhoeddi’n llawn. Rydw i’n cydnabod y bydd y telerau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, ond bydd gweld feysydd ffocws cyfredol yr adolygiad yn rhoi tryloywder llawn i bawb. Rwyf wedi ysgrifennu eto at y bwrdd yn eu hannog i wneud hyn yn ddi-oed.”