Yn ymateb i gais gan BBC Cymru ar adolygiad ymarfer plant Neil Foden, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Mae gan y cyhoedd ddiddordeb sylweddol yn yr adolygiad hwn, ac mae gan y bwrdd diogelu a’r panel penodedig rôl hanfodol wrth gyfleu ei waith yn effeithiol i bawb, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Mae peidio â gwneud hynny yn peryglu creu gwactod gwybodaeth a all achosi dryswch ac ansicrwydd am y broses, ac o bosib yn tanseilio hyder yn y gwaith pwysig hwn. Ysgrifennais at gadeirydd bwrdd diogelu Gogledd Cymru fis diwethaf yn pwysleisio’r angen i gylch gorchwyl yr adolygiad gael ei gyhoeddi’n ddi-oed er mwyn rhoi eglurder cyhoeddus ar ei feysydd ffocws a’i amserlenni. Yn anffodus, nid yw’r cylch gorchwyl wedi’i gyhoeddi ac nid wyf wedi derbyn unrhyw arwydd y bydd e’n cael ei gyhoeddi yn ystod yr adolygiad. I aelodau’r cyhoedd, gan gynnwys disgyblion presennol neu gyn-ddisgyblion, a allai fod â diddordeb personol cryf yn yr adolygiad neu a allai fod â phrofiadau pwysig i’w rhannu, mae gwybodaeth glir a hygyrch yn hanfodol, gan gynnwys sut y gallant rannu’r profiadau hynny’n ddiogel ac yn gyfrinachol a sut y bydd yr adolygiad yn ymateb i’r profiadau hynny. Rwyf hefyd wedi rhannu’r pryderon hyn i swyddogion ac aelodau cabinet Cyngor Gwynedd. Mae hwn yn adolygiad pwysig dros ben ond er mwyn iddo fod mor effeithiol â phosibl, rhaid i’r cyhoedd cael hyder llawn ynddo fe.”