Dim ond un rhan o bump o plant a atebodd yr arolwg sy’n teimlo’n llawn ar ôl cael cinio ysgol

Dim ond 19% o blant a gymerodd rhan mewn arolwg am ginio ysgol ddywedodd eu bod yn llawn ar ôl eu pryd bwyd. Dywedodd bron i hanner (44%) na allant gael mwy o fwyd (eiliadau) os ydynt yn gofyn amdano.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, a gynhaliodd yr arolwg gydag ysgolion ledled Cymru, y canfyddiadau’n ‘giplun pwysig o farn plant ar agwedd hanfodol o’u bywydau’. Mae hi wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar blant wrth iddyn nhw adolygu’r canllawiau cinio ysgol presennol.

O ran maeth, dywedodd bron i chwarter (24%) y plant na allant bob amser gael llysiau os mae nhw eisiau, a dywedodd 22% na allant bob amser gael ffrwythau os mae nhw eisiau.

Atebodd 490 o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed yr arolwg yn unigol. Cymerodd 1250 o blant eraill ran mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Roedd y cyflwyniadau hyn yn cefnogi’r safbwyntiau a cafodd eu rannu gan blant yn uniongyrchol.

Pan ofynnwyd iddynt am eu syniadau ar wneud cinio ysgol yn well, roedd yr ateb mwyaf cyffredin ymhlith plant yn ymwneud ag eisiau mwy o fwyd.

Wrth sôn am y canfyddiadau, dywedodd y Comisiynydd Plant: “Rydym yn gwybod bod cymaint o blant yn dibynnu ar y pryd hwn fel eu ffynhonnell bwysicaf o egni a maeth oherwydd bod teuluoedd sy’n gweithio yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd gartref. Rwyf wedi clywed pryderon yn anecdotaidd bod y meintiau’n rhy fach i lawer o blant, ac mae canlyniadau’r arolwg hyn yn cadarnhau’r pryderon hynny. Yn y cyd-destun cymdeithasol presennol, mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed bod y prif brydau y mae plant yn eu cael yn yr ysgol yn rhoi’r egni a’r maetholion sydd eu hangen arnynt i dyfu, i chwarae, ac i ddysgu.

‘Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn adolygu’r canllawiau a’r rheoliadau y tu ôl i brydau ysgol. Mae’r ciplun hwn o farn plant yn rhoi arwydd cryf iawn iddynt fod angen newid y canllawiau. Dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hyn a gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i wrando ar farn plant a phobl ifanc fel rhan o’u gwaith. Hefyd rwyf wedi rhannu barn plant â chynghorau fel y gallant fyfyrio ar y negeseuon cryf hyn.’

‘Mae’r polisi prydau ysgol am ddim yn wych, ond mae’n rhaid iddo ddiwallu anghenion plant er mwyn cyflawni ei botensial llawn. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod efallai i lawr mai hwn yw eu hunig bryd sylweddol neu bwyd poeth y dydd, felly mae’n rhaid i ni gael hyn yn iawn a gwneud yn siŵr bod y buddsoddiad sylweddol hwn gan y Llywodraeth yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol posibl ar fywydau plant. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae plant ledled Cymru wedi dweud wrthym. Mae hyn nid yn unig yn hawl i fwyd da, ond i ddatblygiad iach, mynediad at addysg ac i liniaru effeithiau tlodi plant.”

Dyfyniadau gan blant

“Nid yw’n eich llenwi. Mae’n sych a dydyn nhw ddim yn rhoi eiliadau” – plentyn 11 oed

“Ni’n cael yr un peth a’r babanod / We have the same thing as the little ones” – 10-mlwydd-oed

“Rydyn ni’n cael yr un faint o fwyd â blwyddyn 1 ac nid yw’n ein llenwi, rydw i bob amser yn teimlo’n llwgyld ar ôl bwyta” – plentyn 11 oed

Dyfyniadau gan athrawon

“Roedd y grŵp yn teimlo nad oedd digon o ddewis o ginio ysgol a bod maint y bwyd yn fach. Roeddent wastad yn teimlo’n llwglyd.”

“Hoffwn i weld plant Blwyddyn 6 yn cael prydiau mwy o rhan maint oherwydd maent yn cael yr un maint o brydiau â phlant yn Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1. Mae nifer o blant dal yn llwglyd ar ôl cinio / I’d like to see Year 6 children having bigger portions because they have the same portion as children in Reception and Year 1. Lots of children are still hungry after dinner.”

“Nid oes dim llysiau bellach. Fel arfer, yr unig lysieuyn yw india-corn/sweetcorn oherwydd nid oes angen ei goginio / There are almost no vegetables any more. Normally, the only vegetable is sweetcorn because it doesn’t need to be cooked.”