Addewid gan Gomisiynydd Plant Cymru i Bobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal

Dros ugain mlynedd yn ôl, o ganlyniad i fethiannau sylweddol i gefnogi plant mewn gofal, gwnaeth Cymru benderfyniad dewr, a chreu Comisiynydd Plant, a fyddai’n gweithio i ddiogelu a hybu hawliau plant a bod yn eiriolydd annibynnol dros blant Cymru. Bu gennym ni dri chomisiynydd cyn i mi dderbyn y swydd am gyfnod o saith mlynedd yn 2022; mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn bencampwyr tanbaid o blaid plant â phrofiad o ofal. Mae’n fraint aruthrol i mi gael bod yn bencampwr annibynnol i blant Cymru yn ystod y saith mlynedd nesa, ac rydw i mor falch bod Cymru wedi penderfynu creu Siarter Rhianta Corfforaethol i sicrhau bod pobl sydd mewn grym yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch cefnogi.

Mae’r Siarter hon yn nodi sut bydd fy nhîm a minnau yn cadw’r addewidion hynny i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Cliciwch yma ar gyfer fersiwn llawn y Comisiynydd ar ‘Addewid Plant mewn Gofal’ (Agor fel PDF)

Cliciwch yma ar gyfer fersiwn hawdd ei ddarllen y Comisiynydd ar ‘Addewid Plant mewn Gofal’ (Agor fel PDF)

Cliciwch yma ar gyfer fersiwn widgit y Comisiynydd ar ‘Addewid Plant mewn Gofal (Agor fel PDF)