“Siomedig iawn nad yw Gweinidogion wedi gwrando” – Ymateb sefydliadau i strategaeth tlodi plant newydd

Mae’r Comisiynydd Plant, ar y cyd gyda sefydliadau eraill, wedi ymateb i strategaeth tlodi plant newydd Llywodraeth Cymru. Y sefydliadau hynny yw:

  • Plant yng Nghymru
  • Action for Children
  • The Trussel Trust
  • Citizens Advice Cymu
  • Barnardo’s Cymru
  • Home Start Cymru
  • Achub y Plant
  • Oxfam Cymru
  • The Children’s Society
  • NSPCC Cymru
  • NYAS Cymru
  • Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant
  • Child Poverty action group

“Mae bron i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Mae ein sefydliadau yn gweld yr effaith hynod o ddinistriol y mae byw mewn tlodi yn cael ar blentyndod yng Nghymru.

Fel sefydliadau hawliau plant, a llawer ohonym hefyd yn aelodau o grŵp Cyfeirio Allanol y Llywodraeth ar gyfer y strategaeth, rydym yn siomedig iawn nad yw Gweinidogion wedi gwrando ar ein galwadau am gynllun gweithredu cadarn gyda thargedau mesuradwy.

Er ein bod yn croesawu y ffaith bod y Llywodraeth yn cyfeirio yn uniongyrchol at hawliau plant a dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn y strategaeth ddiwygiedig hon, mae agwedd sylfaenol ar goll: atebolrwydd. Roedd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn glir: Mae angen i’r Llywodraeth “…datblygu neu gryfhau polisïau presennol, gyda thargedau clir, dangosyddion mesuradwy a mecanweithiau monitro ac atebolrwydd cadarn, i roi terfyn ar dlodi plant a sicrhau bod gan bob plentyn safon bywyd da.

Rydym wedi cael addewid o fframwaith monitro, ond nid ydym wedi cael unrhyw syniad pryd y bydd hwn ar waith na beth fydd yn ei gynnwys. Tan hynny, ni fyddwn yn gwybod a yw arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru yn cyrraedd y plant hynny y mae eu bywydau’n cael eu heffeithio mor ddifrifol.”