Adroddiad y Comisiynydd ar hiliaeth mewn Ysgolion Uwchradd

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn profi hiliaeth a digwyddiadau hiliol yn yr ysgol uwchradd, a dim ond ychydig ohonyn nhw sydd â hyder yn y dull o ddelio â hynny, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Mewn adroddiad newydd, ‘“Cymerwch y Peth o Ddifri”: Profiadau plant o hiliaeth mewn ysgolion uwchradd’, mae’r Comisiynydd Plant yn galw am ymateb ysgol cryfach i hiliaeth a digwyddiadau hiliol, mwy o hyfforddiant a chefnogaeth i ysgolion, a data cenedlaethol ynghylch digwyddiadau hiliol.

Gwrandawodd y Comisiynydd a’i thîm ar 170 o blant fel rhan o’r ymchwil, yn ogystal ag arweinwyr ysgol, athrawon, a staff sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Profiadau o hiliaeth

Fel rhan o waith ymchwil y Comisiynydd, bu plant ar draws Cymru yn sôn am normaleiddio iaith hiliol a natur ‘feunyddiol’ profiadau hiliol. Teimlai llawer nad oedd y digwyddiadau hyn yn cael eu cymryd o ddifri nac yn derbyn sylw priodol.

Dyma rai profiadau o hiliaeth yn yr adroddiad:

  • merched ifanc Mwslimaidd sy’n gwisgo sgarff yn wynebu sylwadau fel ‘rwyt ti’n cuddio bom yn dy sgarff’
  • hijab merch yn cael ei dynnu i ffwrdd, gan ei gadael yn crio
  • disgyblion yn cael eu galw’n ‘frawychwyr’
  • defnydd o’r ‘gair N’ yn cael ei ‘normaleiddio’ mewn ysgol
  • merch yn cael ei galw’n ‘fwnci’ ac yn ‘cotton-picker’

Roedd un plentyn wedi cael plentyn arall yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw ddim eisiau eistedd gyda nhw oherwydd lliw eu croen.

Rhoi gwybod am ddigwyddiadau

Mae pobl ifanc yn teimlo mai ychydig iawn sy’n cael ei wneud pan fydd pobl yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol, yn ôl y Comisiynydd Plant. Dywedodd Rocio Cifuentes fod pobl ifanc eisiau i athrawon gymryd hiliaeth yn fwy o ddifri, ac eisiau gweld y rhai sydd wedi bod yn ymddwyn yn hiliol yn wynebu sancsiynau priodol.

Dywedodd un person ifanc a ddyfynnwyd yn yr adroddiad ‘does neb wir yn rhoi gwybod am y peth, achos does dim byd yn cael ei wneud’, tra dywedodd un arall fod eu hysgol yn poeni mwy am wisg ysgol nag am hiliaeth. Galwodd y bobl ifanc a fu’n rhan o’r ymchwil am systemau adrodd cliriach, mwy o gefnogaeth i’r rhai sy’n profi hiliaeth, a gwell cyfathrebu gan ysgolion ynghylch y dull o ddelio â digwyddiadau yr adroddir amdanynt.

Arweinwyr ysgol ac athrawon

Dywedodd un athro wrth dîm y Comisiynydd nad oedden nhw erioed wedi cael hyfforddiant penodol ar hiliaeth, er eu bod yn addysgu ers 27 mlynedd. Yn yr un modd, dywedodd arweinwyr ysgol ac athrawon eraill mai ychydig iawn o gyfleoedd hyfforddi roedden nhw wedi’u derbyn, os o gwbl. Roedd gan athrawon ac arweinwyr ysgol farn gymysg ynghylch i ba raddau mae canllawiau presennol Llywodraeth Cymru yn eu helpu i ddelio’n effeithiol â hiliaeth, gyda rhai yn galw am ddeunyddiau cliriach a mwy ymarferol.

Roedd rhai athrawon a fu’n rhan o’r ymchwil yn pryderu am ‘ddweud y peth anghywir’ a theimlo’n ‘anghyfforddus am y pwnc’. Dywedodd un arweinydd ysgol fod athrawon yn gallu bod yn anghyfforddus yn trafod hil, ac y gall hynny arwain at geisio ‘tawelu’r dyfroedd’. Dywedwyd bod hynny’n achosi niwed trwy normaleiddio profiadau o hiliaeth a chreu rhwystrau i adrodd.

Hefyd trafodwyd y testun TGAU ‘Of Mice and Men’, sy’n cynnwys y gair N, gan rai arweinwyr ysgol. Dywedodd rhai eu bod wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r testun ar ôl trafod ei effaith gyda phobl ifanc.

Wrth wneud sylwadau ar ei chanfyddiadau, dywedodd Rocio Cifuentes MBE hyn:

“Mae’r lleisiau a gasglwyd yn yr adroddiad hwn wedi rhoi cipolwg digysur i ni ar sut ac i ba raddau mae plant a phobl ifanc yn profi hiliaeth a digwyddiadau hiliol mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, a sut mae’r profiadau hyn bron yn rhan normal o fywyd iddyn nhw.

“Rydyn ni hefyd wedi clywed pam gallai dysgwyr beidio â rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol, sy’n cynnwys normaleiddio hiliaeth, ofni y bydd y broses yn eu llethu’n emosiynol ac yn feichus, a disgwyl na fydd llawer yn digwydd beth bynnag. Mae hynny’n golygu, at ei gilydd, fod dadansoddiad cost-budd yn dod i’r casgliad nad yw rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol yn werth chweil fel arfer. Mae hynny’n awgrymu bod y digwyddiadau hynny yr adroddir amdanynt mewn gwirionedd yn frig gweladwy ar fynydd iâ sylweddol.   

“Ar y cyfan, dywedodd athrawon eu bod yn teimlo nad oeddent wedi’u paratoi nac yn hyderus i ymateb i hiliaeth. Bydden nhw’n hoffi cael mwy o arweiniad ymarferol a chliriach, yn ogystal â chefnogaeth barhaus ynghylch sut mae ymateb i’r mater hwn wrth iddo esblygu. Mae’n eglur bod hiliaeth, fel cymdeithas, yn newid yn barhaus, ac amlygodd addysgwyr ymwybyddiaeth o’r newidiadau cyflym i derminoleg a beth sy’n dderbyniol neu beidio fel un her amlwg.  

“Gan blant a phobl ifanc, fe glywson ni alwadau cryf yn gyffredinol ar ysgolion i gymryd hiliaeth yn fwy o ddifri, am ddarparu mwy o hyfforddiant er mwyn i athrawon ddeall hiliaeth ac amrywiaeth, ac i ysgolion wneud mwy i addysgu’r holl blant a phobl ifanc am hiliaeth, er mwyn ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf.”

Mae 23 o argymhellion yn yr adroddiad, yn cynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru roi eglurhad yn y canllawiau gwrthfwlio diwygiedig sydd ar ddod sut mae’n disgwyl i ysgolion ymateb i ddigwyddiadau hiliol, eu cofnodi, ac ymdrin â nhw.
  • Yn ei chanllawiau gwrthfwlio diwygiedig, dylai Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd i ysgolion ddelio â digwyddiadau hiliol a’u cofnodi fel rhai cyfatebol i ddigwyddiadau diogelu, gan sicrhau bod systemau ysgol a rhai rhanbarthol ar gyfer mynegi pryderon yn weladwy ac yn hygyrch.
  • Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen ar frys gyda’r gwaith a gynlluniwyd i ddatblygu system Cymru gyfan o gofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion, gan sicrhau bod sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu’r data yma, ac egluro gwahanol rolau a chyfrifoldebau ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff eraill o fewn y system yma.
  • Dylai Consortia Gwella Ysgolion Cymru ddatblygu rôl ‘pencampwr gwrth-hiliaeth’ a grwpiau llywio sy’n cynnwys pobl a sefydliadau â phrofiad bywyd i gefnogi ysgolion i ddiwygio polisïau, gan ymateb i ddigwyddiadau a chodi lefel sgiliau staff ar y pwnc yma, yn ogystal â chynnig cyngor uniongyrchol i ysgolion ar faterion byw. Dylai’r rolau hyn gael eu cysylltu â Chydlynwyr Rhanbarthol arfaethedig ARWAP Llywodraeth Cymru.
  • Dylai polisïau ysgol ar ymateb i ddigwyddiadau hiliol gael eu cyfleu i bob disgybl mewn modd hygyrch a hwylus i blant a phobl ifanc, er mwyn cefnogi dysgu a datblygu diwylliant gwrth-hiliol yn yr ysgol.
  • Dylai polisïau ysgol ar ymateb i ddigwyddiadau hiliol fod yn eglur ynghylch beth sy’n digwydd i’r person sy’n adrodd, a’r person yr honnir iddynt fod yn hiliol, a dylai gynnwys adran ar ddarparu mecanweithiau adborth rheolaidd, amserol a sensitif i bawb a fu’n ymwneud â’r digwyddiad ac y bu’n effeithio arnyn nhw.
  • Dylai hyfforddiant am hiliaeth a gwrth-hiliaeth ac adnabod ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol fod yn orfodol i’r holl arweinwyr addysg, athrawon a staff cefnogi, a chael ei adnewyddu o leiaf bob 3 blynedd, yn debyg i hyfforddiant diogelu. Er mwyn sicrhau safon a chysondeb, dylid cydlynu hyn trwy rwydwaith DARPL, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, a’i gysylltu â gwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL).
  • Dylai CBAC roi blaenoriaeth i sicrhau cynnydd yn y gwaith sydd eisoes yn digwydd gyda DARPL i adolygu a diwygio rhestrau testunau yn y meysydd llafur sy’n cynnwys iaith hiliol, gan gydnabod effaith hynny ar ddysgwyr ac amgylchedd/diwylliant yr ysgol.