Ymateb Comisiynydd Plant i adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru ‘Ffyrdd Gwyrdd’

Yn ymateb i adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru ‘Ffyrdd Gwyrdd’, dywedodd Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru

“Dwi’n cytuno’n llwyr gyda’r 74% o bobl ifanc wnaeth gwblhau’r ymgynghoriad sylweddol yma gan Senedd Ieueunctid Cymru y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod am ddim i rheiny o dan 25 oed. Mae’n argymhelliad dwi wedi rhannu gyda Llywodraeth Cymru mewn sawl adroddiad blynyddol, yn alwad mae aelodau o fy mhanel ymgynghorol wedi codi drwy ddeiseb i’r Senedd ac un fydda i’n parhau gwthio er mod i’n hynod ymwybodol o’r pwysau ar y sefyllfa ariannol yng Nghymru. I fi, ac i’r rheiny sydd wedi siarad mor bwerus yn yr adroddiad yma, ni ddylen ni weld hwn fel bil arall i dalu ond yn hytrach fel buddsoddiad yn ein dyfodol sero net, buddsoddi mewn mynediad ein pobl ifanc i addysg a hyfforddiant a swyddi, a gwella dyfodol economaidd ac amgylcheddol pawb.

“Mae yna argymhellion ymarferol arall i weld yn yr adroddiad a dwi’n mawr obeithio bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb yn llawn ac yn bositif iddynt.”