Datganiad y Comisiynydd Plant yn dilyn dedfryd Lewis Edwards

Dyma ddatganiad gan y Comisiynydd Plant Rocio Cifuentes yn dilyn dedfryd Lewis Edwards:

“Mae’n annealladwy y raddfa o gam-drin a’r arswyd a achoswyd gan Edwards. Mae’n arswydus meddwl bod y  troseddau yma gan ddyn oedd â swydd i arbed plant rhag niwed. Mae’r modd y gwnaeth lwyddo twyllo a blacmelio pobl ifanc drwy gyfryngau cymdeithasol yn ein hatgoffa o’r her rydyn ni’n wynebu fel cymdeithas i sichrau fod y platfformau yma yn rhai diogel i bobl ifanc. Mae’n rhaid sicrhau bod y ddeddf a rheoliadau newydd yn mynd i’r afael â hyn, a gorfodi’r platfformau i wneud popeth yn eu gallu i ddiogelu pobl ifanc, i’w gwarchod nhw o ddefnyddwyr eraill, ac i arbed rhannu cynnwys anghyfreithiol. Mae pobl ifanc wedi bod yn byw eu bywyd gyda’r peryglon yma’n rhy hir ac mae angen i’r newidiadau yma ddod i rym heb unrhyw oedi pellach.”