Ymateb y Comisiynydd i alwad Llywodraeth Cymru i wahardd e-sigaréts

Ar hyn o bryd e-sigaréts yw un o’r prif faterion mae plant a phobl ifanc wedi trafod gyda fi. Mae plant a phobl ifanc o bob oedran, gan gynnwys plant oed ysgol gynradd, yn poeni o achos effaith iechyd, effaith ar yr amgylchedd a pha mor boblogaidd ydy defnydd e-sigaréts a’r pwysau gan gyfoedion i’w defnyddio. Byddwn i yn cefnogi gwahardd e-sigaréts untro, a dwi’n edrych ymlaen at glywed sut gall plant a phobl ifanc siapio datrysiadau pellach i’r mater hwn.