Ymateb Comisiynydd Plant i sefyllfa RAAC mewn ysgolion

Yn ymateb i’r sefyllfa, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Mae gan y sefyllfa hon y potensial i achosi pryder sylweddol i blant a’u rhieni, a dyna pam ysgrifennais ar frys at y Gweinidog Addysg wythnos diwethaf i ofyn am eglurder ar y sefyllfa yng Nghymru. Yn fy llythyr, gofynnais i Lywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariadau ar frys a rhoi sicrwydd ar sut rydyn nhw am ymdrin â’r mater yma. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw effaith ar addysg plant yn cael ei leihau, a rhaid iddyn nhw hefyd cyfathrebu yn reolaidd gyda theuluoedd, mewn ffordd sy’n hawdd i’w ddeall, wrth i’r mater hwn ddatblygu dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

“Nid yw datganiadau y Gweinidog hyd yma yn rhoi’r eglurder sydd ei angen ar deuluoedd ar beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw na’r camau nesaf ar gyfer eu hysgol, mewn ffordd sy’n hawdd ei ddeall. Nid clywed beio sy’n mynd i helpu plant a theuluoedd, ond manylion am faint y broblem, beth yn union sy’n mynd i ddigwydd dros yr wythnosau nesaf, a negeseuon i’w helpu gydag unrhyw bryderon. Mae’n annerbynniol bod y sefyllfa yma wedi datblygu i’r pwynt lle mae addysg plant yn cael eu amharu a lle mae teuluoedd yn poeni.”