Y Comisiynydd Plant yn ymateb i adroddiad ar y system anghenion dysgu ychwanegol newydd

Mae’r Comisiynydd Plant wedi ymateb i adroddiad gan Estyn ar weithredu system anghenion dysgu ychwanegol newydd:

“Mae gweithredu’r system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn dasg sylweddol, ac rwy’n adnabod y gwaith called mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu gwneud i’w gael yn iawn.

“Atseinia adroddiad Estyn beth rydym yn clywed trwy ein Gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor o ran dehongliadau anghyson o’r system newydd, sydd yn arwain at rwystredigaeth ac ansicrwydd i deuluoedd.

“Mae cyllid sefydlog a sicr yn y maes hwn yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y system newydd yn cael ei weithredu’n effeithiol ac yn gyson, gan roi mynediad cyfartal i blant at eu hawliau yng Nghymru.”