‘Cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi methu yn eu dyletswydd i gadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein’ – Comisiynydd Plant

Yn ymateb i ymchwiliad BBC Cymru ar sut mae plant yn cael eu targedu trwy apiau cyfryngau cymdeithasol i’w hecsbloetio, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi methu yn eu dyletswydd i gadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein, ac mae wir angen y newidiadau hynny sydd ar y gorwel i’w dal nhw i gyfrif yn effeithiol. Mae angen i reoliadau newydd sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol a defnyddwyr eraill, a gwella y ffordd mae platfformau’n delio â phroblemau sy’n cael eu hadrodd iddyn nhw. Mae angen i blant a phobl ifanc eu hunain fod yn rhan o’r gwaith hwn. Rhaid iddynt gael y pwêr i ddefnyddio eu profiadau i lywio newidiadau i bolisi ac ymarfer.

“Fy nghyngor i blant fyddai siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw yn syth os bydd rhywbeth yn digwydd ar-lein sy’n gwneud i chi deimlo’n bryderus, neu os dydy rhywbeth ddim yn teimlo’n iawn. I rieni, mae canllawiau ar-lein gan Lywodraeth Cymru a’r NSPCC yn esbonio risgiau nifer o blatfformau gwahanol a gemau ar-lein. Rydw i hefyd yn meddwl ei fod yn bwysig ceisio adeiladu amgylchedd gartref lle mae sgyrsiau am weithgaredd ar-lein yn reolaidd ac yn agored.

“Gall camfanteisio fod yn anodd iawn i blant a phobl ifanc adnabod eu hunain neu ddeall. Mae’n hanfodol bod rhieni, gofalwyr, a’r rhai sy’n gweithio gyda phlant yn gallu teimlo’n hyderus wrth adnabod arwyddion hyn. Mae canllawiau ar gael ar arwyddion camfanteisio’n rhywiol ar blant gan Lywodraeth Cymru, y GIG, a’r NSPCC.”