A teenager embraces her grandmother

Comisiynwyr yn dod at ei gilydd i dynnu sylw at bwysigrwydd undod rhwng y cenedlaethau

Fel rhan o Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau eleni (24 – 30 Ebrill)1, mae Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at bwysigrwydd undod rhwng y cenedlaethau wrth i ni ddelio â’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu fel cymdeithas.

Maen nhw’n dweud bod llawer o faterion a phryderon cyffredin yn cael eu rhannu ar draws y cenedlaethau, a’i bod yn hanfodol cael cyfleoedd i bobl o wahanol oedrannau ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth, profiadau a syniadau er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblemau ac i gryfhau ein cymunedau.

Maent hefyd yn annog pawb i weithio gyda’i gilydd i roi diwedd ar y drafodaeth sy’n gosod cenedlaethau yn erbyn ei gilydd, er mwyn canolbwyntio mwy o’n egni ar uno cymdeithas i sicrhau newid a chynnydd.

Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

O dlodi bwyd i’r newid yn yr hinsawdd, rwy’n clywed yn rheolaidd gan blant a phobl ifanc am bwysigrwydd gweithredu ar y materion hyn, a gweithio gyda phobl o bob oed a chefndir i gyflawni hyn.

“Wrth fynd o amgylch Cymru, rydw i wedi gweld cymaint o enghreifftiau gwych o undod rhwng y cenedlaethau a chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i ymateb i heriau cyffredin, ac rwy’n meddwl y dylen ni fod yn dathlu ac yn cefnogi hyn.”

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Mae Cymru yn lle mae’r gyfraith yn datgan y dylid cefnogi pawb i ffynnu, beth bynnag fo’u hoedran, eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

“Gall cydweithio â phob cenhedlaeth, gwrando arnynt a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ein helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, chwalu rhwystrau, dod o hyd i atebion hirdymor i’n problemau yn y gymuned a chreu Cymru y gallwn i gyd fod yn falch ohoni am genedlaethau i ddod.

“Mae prosiectau pontio’r cenedlaethau gwych eisoes ar waith ledled Cymru, ond mae angen i ni weld cefnogaeth ehangach yn cael ei rhoi i’r gweithredu hwn. Rwy’n annog pob corff cyhoeddus i gynnwys pob cenhedlaeth yn eu gwaith wrth iddynt ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i adael planed brafiach i’n plant a’n hwyrion fyw ynddi.”

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Drwy ddod â gwahanol genedlaethau ynghyd rydw i’n credu y gallwn ni greu cymunedau cryfach a mwy cydlynus sy’n cefnogi pob un ohonom i heneiddio’n dda ac sy’n galluogi pobl o bob cenhedlaeth i gyflawni eu potensial.” Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddelio â’r heriau sydd o’n blaenau yn y tymor byr a’r tymor hirach.

“Ond yn rhy aml mae materion yn cael eu gosod mewn ffordd sy’n arwain at wrthdaro rhwng y cenedlaethau. Mae hyn yn rhwystr rhag symud ymlaen a gwneud gwelliannau a fyddai o fudd i bob un ohonom.

“Ar fater fel y Newid yn yr Hinsawdd, er enghraifft, rydyn ni’n gwybod bod lefelau pryder yn eithaf tebyg ar draws pob cenhedlaeth, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y sylw sy’n cael ei roi i hyn. Yn hytrach, mae trafodaethau a dadleuon yn aml yn canolbwyntio, yn anghywir, ar densiynau honedig rhwng gwahanol grwpiau oedran ynghylch yr angen i fynd i’r afael â’r mater hwn, yn hytrach nag ar sut y gallwn ni fwrw ymlaen â’r polisïau a’r camau gweithredu sydd eu hangen.

“Gallwn gyflawni cymaint mwy pan fydd yna undod, a phobl o wahanol genedlaethau’n gweithio gyda’i gilydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd – gwelsom hyn drwy waith Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undod Rhwng Cenedlaethau2 – felly rwy’n falch o fod yn gweithio gyda’r Comisiynwyr eraill i dynnu sylw at bwysigrwydd meithrin undod rhwng y cenedlaethau a chreu mwy o gyfleoedd i genedlaethau ddod at ei gilydd.”

DIWEDD

Nod Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau yw ysbrydoli unigolion, grwpiau, sefydliadau, llywodraeth leol/genedlaethol, a chyrff anllywodraethol i gofleidio ymarfer sy’n pontio’r cenedlaethau yn llawn, ac mae’n darparu cyfleoedd i ddod o hyd i ffyrdd newydd creadigol ac effeithiol o ddod â’r cenedlaethau ynghyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://generationsworkingtogether.org/global-intergenerational-week

2 Sefydlwyd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undod Rhwng Cenedlaethau ym mis Tachwedd 2020 i hybu undod a dealltwriaeth rhwng cenedlaethau, gan gynnwys prosiectau sy’n dod â chenedlaethau iau a hŷn at ei gilydd, ac i edrych ar dystiolaeth a datblygu cynigion polisi a fyddai o fudd i genedlaethau ieuengach a rhai hŷn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://busnes.senedd.cymru/mgOutsideBodyDetails.aspx?ID=695