Datganiad y Comisiynydd mewn ymateb i Bill Mudo Anghyfreithlon annerbyniol Llywodraeth y DU

9 Mawrth 2023

“Mae Cymru’n genedl noddfa falch. Mae’r ddeddfwriaeth hon, os caiff ei phasio, yn gwbwl groes i’r hyn yr ydym yn ymfalchio ynddo fel cenedl noddfa, ac mae’n doriad clir o’n rhwymedigaeth hawliau dynol. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, dwi wedi gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid ac wedi’u croesawu nhw i Gymru. Nid ydynt yn faich ar ein cymdeithas, nac yn dorwyr cyfraith annymunol; maent yn fodau dynol, gyda hawliau dynol, sy’n ffoi o berygl a rhyfeloedd. Maent wedi dod yn rhan hanfodol o’n cymdeithas amlddiwylliannol, sy’n cofleidio ein hiaith a’n diwylliant, yn aml yn gweithio mewn swyddi pwysig a’n fythol ddiolchgar am y diogelwch rydym wedi rhoi iddynt. Dwi’n annog Llywodraeth Cymru i herio’r bil yn gadarn a byddaf yn gweithio gyda swyddogion cyfatebol yn y DU er mwyn annog Llywodraeth y DU, ASau ac arglwyddi i ailystyried a dilyn canfyddiadau mwy dyngarol.”