Angen trawsffurfio cefnogaeth i blant niwroamrywiol, meddai Comisiynydd Plant Cymru

Mae ‘angen dybryd’ am drawsffurfio sut mae plant a phobl ifanc niwroamrywiol yn cael eu cefnogi yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Ymhlith y cyflyrau niwroddatblygiadol mae Awtistiaeth ac ADHD, ac mae’r Comisiynydd yn galw am gefnogaeth i blant a phobl ifanc sy’n disgwyl am ddiagnosis, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cael diagnosis o gyflwr niwroddatblygiadol.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar hanesion unigol plant a’u teuluoedd sy’n ceisio estyn allan am gymorth.

Wrth sôn am geisio cael diagnosis i’w phlentyn, dywedodd un fam:

“Nid ei labelu e yw’r bwriad. Ond rydw i eisiau gwybod sut i’w wneud e’n hapus. Bydd un darn o bapur yn newid y cyfan; bydd pobl yn ei weld mewn ffordd wahanol. Nid dim ond plentyn drwg fydd e, byddan nhw’n meddwl bod hyn yn digwydd oherwydd rhywbeth arall.”

Dywedodd Rocio Cifuentes MBE fod llawer o deuluoedd ar draws Cymru yn wynebu amserau aros hir ar gyfer asesiadau a bod rhaid iddyn nhw gael hyd i ffordd trwy system gymhleth, yn aml heb dderbyn fawr ddim help i wneud hynny.

“Yn aml iawn bydd teuluoedd yn dod i’m swyddfa wedi cyrraedd pen eu tennyn oherwydd y sefyllfa maen nhw ynddi. Pan fydd rhiant yn amau bod gan eu plentyn gyflwr niwroddatblygiadol fel awtistiaeth, gall hynny ynddo’i hun fod yn brofiad emosiynol sy’n codi ofn. Mae’n adeg pan fo angen cefnogaeth, nid rhwystrau. Ond mae rhaid i lawer ohonyn nhw aros oesoedd i gael unrhyw gefnogaeth, ac mae’r frwydr i sicrhau’r gefnogaeth honno yn aml yn broses ddryslyd, estynedig sy’n mynd â’u holl egni. Ac yng nghanol y cyfan mae plentyn sydd â hawl i ffynnu a chyflawni hyd eithaf eu potensial.

“Mae rhaid i ni gael system sy’n ymateb yn llawn i anghenion unigol plentyn, ac yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Ar hyn o bryd, mae gennym ni system sy’n ymateb i ddiagnosis yn hytrach nag anghenion unigol. Gall fod yn anodd iawn sicrhau diagnosis, ac efallai na fydd byth yn digwydd yn achos rhai. Ni fydd rhai plant byth yn cyrraedd y trothwy ar gyfer diagnosis meddygol penodol, er bod ganddynt yn amlwg ystod eang o anghenion sy’n cael effaith aruthrol arnyn nhw a’u teulu. Gall y plant hynny a’u teuluoedd fod yn byw ar dir neb, heb yr help mae arnyn nhw ei angen. Mae’n aruthrol o niweidiol. Mae pob plentyn yn unigryw, ac mae ganddyn nhw hawl i lefel o ofal a chefnogaeth sy’n ymateb i’w hanghenion unigol.

“Rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y sefyllfa hon, a’u bod nhw’n gweithio i wella’r sefyllfa. Ond wrth i ni aros i’r gwelliannau hynny ddigwydd, roeddwn i am amlygu’r anawsterau aruthrol mae plant a theuluoedd ar draws Cymru yn eu hwynebu, a phwysigrwydd diwygio’r maes hwn ar frys. Dylai’r llywodraeth ddefnyddio’r profiadau mae fy adroddiad yn manylu arnyn nhw i’w tywys, oherwydd dyna mae plant a theuluoedd yn ei ddweud, a dyna’u profiadau bywyd.’

Adleisiwyd pryderon y Comisiynydd Plant gan Dr Mair Edwards, a fu’n Seicolegydd Clinigol ers dros ugain mlynedd:

“Heb os, o’m profiad uniongyrchol o weithio gyda theuluoedd bregus ac anghenus, mae yna blant a phobl ifanc wedi eu niweidio i’r tymor hir oherwydd yr oedi afresymol cyn bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod yn swyddogol. Sut all hi fod yn dderbyniol bod plentyn yn aros blynyddoedd am asesiad o’u hanghenion pan mae’r ymchwil yn dangos yn glir bod ymyraeth a chefnogaeth addas yn y blynyddoedd cynnar mor bwysig? Hyd yn oed o gael diagnosis mae yna ddiffyg gwasanaethau addas i gefnogi a chynnal plant a’u teuluoedd – yn enwedig ar amseroedd o drawsnewid heb bod ychwaneg o oedi. Siawns bod hi’n llawer iawn mwy effeithlon ac effeithiol yn sicr yn fwy moesol – asesu anghenion plentyn mor gyflym a phosib fel bod modd darparu a chefnogi plant a’u teuluoedd mewn modd addas a lleihau’r trawma o aros ac aros ac aros.”

Dywedodd Joanne Morris, rheolwr elusen sy’n helpu plant cyn ysgol sydd ag awtistiaeth wedi’i gadarnhau neu yn bosibl:

“Rydyn ni mor unigryw yn y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu. Mae rhieni’n estyn allan, maen nhw wedi anobeithio wrth ddod aton ni. A tasen ni ddim yma, fydden i’n wir ddim yn hoffi meddwl ble byddai’r rhieni. Mae plant yn aros hyd at dair blynedd i gael diagnosis, ac yn y cyfamser, does dim cefnogaeth ar gael.”

Ychwanegodd y Comisiynydd Plant:

“Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynllun gwella ac rwy’n croesawu’r tri phrif faes sydd i’r gwaith hwn. Rwy’n galw ar y Llywodraeth i geisio sicrhau dull gweithredu sy’n wir wedi’i seilio ar anghenion yn hytrach na diagnosis ar gyfer plant niwroamrywiol fel rhan o’r cynllun yma. Rwy’n gobeithio bydd y llyfr hwn o brofiadau yn bwrw goleuni ar pam mae angen y dull gweithredu hwn, er mwyn i ni fedru sicrhau bod anghenion plant sydd angen cefnogaeth yn cael eu diwallu yn ddirwystr ac yn ddioed. Bydda i’n parhau i graffu’n fanwl ar waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.”