‘Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg’ – ymateb comisiynydd i ddyfarniad yr Uchel Lys

22 Rhagfyr 2022

Yn ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

 

“Rydw i wir yn croesawu penderfyniad y llys heddiw. Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg lawn, yr hawl i iechyd da, a’r hawl i fod yn ddiogel. Mae addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cefnogi’r holl hawliau hyn trwy helpu plant i ddysgu am berthnasau parchus a chydradd mewn ffordd sy’n addas ar gyfer ei oedran, a hefyd i ddysgu am berthnasau sydd ddim yn iachus, yn niweidiol, neu’n gamdriniol. Mae’n bwysig bod gwybodaeth glir a hygyrch ar gael ar gyfer rhieni a phlant i fynd i’r afael â chamwybodaeth, a bod athrawon wedi’u cefnogi’n ddigonol er mwyn cyflawni’r gwersi hollbwysig hyn. Ni ddylai unrhyw blentyn colli mas ar yr addysg hanfodol hwn.”