Ymateb Comisiynydd Plant Cymru i Adolygiad Ymarfer Plant yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi

24 Tachwedd 2022

Yn dilyn cyhoeddiad Adolygiad Ymarfer Plant ar 24 Tachwedd yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi, dywedodd Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae hi’n anodd darllen elfennau o’r adroddiad yma. Allwn ni ddim gadael i farwolaeth plentyn i fynd heibio heb ein bod ni’n gofyn cwestiynau sylfaenol am y system sydd yna i ddiogelu plant yng Nghymru, yn enwedig pan mae adolygiad yn codi cwestiynau rydyn ni wedi gweld mewn adroddiadau blaenorol.

“Rydw i’n croesawi holl argymhellion cenedlaethol yr adroddiad, yn cynnwys yr argymhelliad hollbwysig am adolygiad llawn o sut mae gwybodaeth yn cael ei rannu rhwng asiantaethau i gadw plant yn ddiogel. Mae diffygion rhannu gwybodaeth wedi bod yn ffactor allweddol mewn adolygiadau blaenorol; mae hwn yn fater systemig sydd angen arweiniad cryf a brys gan Lywodraeth Cymru.

“Dwi hefyd yn gofyn ar i Lywodraeth Cymru fynd yn bellach. Mae angen ffocws cryfach ar lywodraethu ac atebolrwydd o fewn ein system diogelu plant. Dyw hi ddim yn glir sut mae byrddau diogelu rhanbarthol yn cael eu dal yn atebol am gwblhau’r argymhellion mewn adolygiadau ymarfer plant a dyw hi ddim yn glir sut mae gwersi o un adolygiad i’r llall yn cael eu gweithredu’n genedlaethol i sicrhau fod plant yn cael eu cadw’n ddiogel. Dwi’n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu systemau llywodraethu ac atebolrwydd system amddiffyn plant Cymru i weld sut medrwn ni eu cryfhau i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o bobl adolygiad ymarfer plant a’u bod nhw’n cael eu gweithredu’n effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol.

“Does dim byd mwy pwysig na chadw plant yn ddiogel. Does dim byd mwy pwysig na sicrhau ein bod ni’n gwrando ar blant. O’r herwydd, rydyn ni’n disgwyl ymateb cenedlaethol brys i hyn.”