Ymateb y Comisiynydd i adroddiad IICSA

20 Hydref 2022

Ym ymateb i adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) ar 20 Hydref 2022, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Mae’n rhaid i waith eang yr ymchwiiad hwn, yn cynnwys y profiadau dirdynnol a rhannwyd yn ddewr gan filoedd o oroeswyr, arwain at newidiadau parhaol yn ein cymdiethas i ddiogelu plant rhag camdriniaeth. Mae’r ymchwiliad wedi gwrando; fel cymdeithas mae’n rhaid nawr ein bod ni’n ymateb trwy sicrhau bod gweithdrefnau yn cryfhau i gadw plant yn ddiogel rhag camdriniaeth ac ecsbloetiaeth.

“Mewn ymateb i’r adroddiad, rydw i eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cydlynnu a chyhoeddi cynllun gweithredu, sy’n dangos sut bydden nhw a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn gweithredu ar yr argymhellion.

“Bydda i’n parhau i ddod â chyrff cyhoeddus perthnasol at ei gilydd er mwyn monitro cynnydd, ac i helpu hwyluso rhannu gwybodaeth ac arfer da.”