Datganiad Comisiynwyr Plant ar mini-budget 23 Medi

23 Medi 2022

Yn ymateb i gyhoeddiadau ar 23 Medi, dywedodd Comisiynwyr Plant Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon:

“Mae 3.9 miliwn o blant yn byw mewn tlodi yn y Deyrnas Unedig heddiw.

“Y gaeaf yma, fe fydd llawer ohonyn nhw’n mynd i’w gwelyau yn gwisgo hetiau a chotiau gyda’r ansicrwydd os fyddan nhw’n cael brecwast neu beidio yn y bore. Mae angen i’r  3.9 miliwn o blant yma a’u teuluoedd derbyn help nawr.  Mae cyhoeddiadau heddiw yn amlinellu newidiadau, a bydd rhai ohynynt yn helpu teuluoedd, ond nid tan y Gwanwyn. Rydyn ni wedi gweld dim i helpu y plant a theuluoedd mwyaf bregus heddiw a thrwy’r gaeaf.

“Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw diogelu hawliau dynol sylfaenol plant. Mae newidiadau sydd yn rhaid i ni weld yn cynnwys cynnyddu graddfa ‘Universal Credit’/Credyd Cynhwysol i adlewrychu realiti costau byw, gwaredu’r cap ar fudd-daliadau a gwaredu’r rheol dau-blentyn i dderbyn taliadau, rhywbeth sydd dal yn torri hawliau dynol plant ac yn cosbi rhai sydd angen y mwyaf o help.”