Ymateb y Comisiynydd i adroddiad Pwyllgor Senedd ar aflonyddu rhywiol

13 Gorffennaf 2022

Ym ymateb i adroddiad y pwllygor Plant, Pobl ifanc, ac Addysg ar aflonyddu rhywiol, dywedodd y Comisiynydd Plant Rocio Cifuentes:

“Ni ddylai unrhyw berson ifanc brofi aflonyddu rhywiol. Mae gan bobl ifanc hawliau dynol i fod yn ddiogel, i ddysgu a chael eu gwarchod rhag cam-driniaeth. Hoffwn ddweud wrth bob person ifanc yng Nghymru na ddylai aflonyddu rhywiol ddigwydd yn eich ysgolion a cholegau. Os yw e’n digwydd, mae’n rhaid i oedolion gymryd y peth o ddifri a rhoi’r gefnogaeth sydd arnoch chi.

“Mae hwn yn broblem gymdeithas-gyfan. Nid yn unig bod angen i ni weld achosion yn cael eu delio’n ddigonol o fewn sefydliadau hefyd ond mae angen ffocws ar brofiadau plant o’r pwnc drwy eu hoes – beth maen nhw’n weld adref, yn eu cymunedau ar ar-lein.

“Trwy addysg, mae ganddom ni gyfle i sicrhau bod plant yn deal beth sy’n dda a drwg am berthnasau o oed ifanc, a sut y medrant ymddwyn o fewn perthnasau gyda pharch a chydraddoldeb.

“Rhaid sicrhau bod bywyd go iawn plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn ganolbwynt i’n hymateb cenedlaethol a lleol i’r mater yma. I sicrhau hyn, mae’n rhaid cael cyfleoedd priodol yn ddatblygiadol i blant a phobl ifanc rannu eu profiadau.”