Ymateb y Comisiynydd i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru

7 Mehefin 2022

Yn ymateb Gynllun Gweithredu Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru, dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

“Rydyn ni’n falch i weld ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o fewn y cynllun gweithredu hwn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at sicrhau bod profiadau plant a phobl ifanc wrth wraidd y gwaith yma dros y misoedd a blynyddoedd i ddod.

“Yn bendant rydyn ni angen dealltwriaeth glir o brofiadau presennol plant a phobl ifanc o gamdriniaeth a bwlio hiliol yn yr ysgol. Rydyn ni angen gwybod sut mae digwyddiadau unigol yn cael eu delio gyda nhw o safbwynt pobl ifanc a’u teuluoedd, ac rydyn ni angen gwybod beth yw profiadau athrawon o ddelio gyda’r digwyddiadau hynny, a’u safbwyntiau nhw. Ac yn bwysicaf oll, mae angen bod gan bob plentyn a pherson ifanc hyder llawn yn y mesurau sydd yn eu lle i’w cadw nhw’n ddiogel ac yn hapus yn yr ysgol.

“Ysgrifennais i’r Llywodraeth yn ystod fy mis cyntaf fel Comisiynydd i ofyn sut maen nhw’n bwriadu rhoi profiadau a safbwyntiau plant ar ganol y canllaw newydd i ysgolion. Mae’n hanfodol bod y canllaw ac unrhyw hyfforddiant a chyngor yn diwallu anghenion pobl ifanc yn llawn, ac yn rhoi hyder i bob ysgol i ddelio gydag achosion yn effeithiol. Ni all y Llywodraeth gwneud hon heb wrando yn drylwyr ar brofiadau plant a theuluoedd, a safbwyntiau staff ar draws ein sector addysg.

“Rydw i wedi bod yn archwilio fy rôl i mewn hyn. Mae hwn wedi bod yn fater pwysig i fi am flynyddoedd. Rydw i’n trafod gyda’r Llywodraeth sut galla i helpu i roi profiadau plant ar ganol y gwaith yma, ac i wneud yn siŵr bod y gwaith mor gryf â phosib. Rydw i’n bwriadu gwneud gwaith annibynnol yn y maes yma dros y misoedd nesaf, i wneud yn siŵr bod profiadau plant yn ddylanwadol wrth i’r adnoddau i ysgolion cael eu datblygu.”