Comisiynydd yn ymateb yn dilyn y dedfrydiadau mewn achos llys Logan Mwangi

30 Mehefin 2022

Yn dilyn y dedfrydiadau, dywedodd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes:

“Yn lle derbyn cariad ganddynt, dioddefodd Logan y creulondeb mwyaf erchyll gan y bobl a oedd yna i edrych ar ei ôl; ni ddylai unrhyw blentyn profi’r hyn a wnaeth Logan.

“Rydyn ni’n gwybod roedd asiantaethau lleol yn ymwybodol o Logan a’i deulu, a bod Adolygiad Ymarfer Plant nawr yn cymryd lle. Bydd yr adolygiad yma yn rhoi darlun llawn a chlir i ni am y cyswllt rhwng ei deulu a’r asiantaethau hynny cyn ei farwolaeth, ac os roedd cyfleoedd wedi eu colli i’w ddiogelu. Ni fyddai’n briodol i fi wneud sylw pellach ar yr achos yma wrth i’r ymchwiliad hynny digwydd. Bydda i a fy nhîm yn ei ystyried yn fanwl ar ôl iddo gael ei gyhoeddi.

“Os rydych chi’n poeni am blentyn neu fod gyda chi deimlad bod rhywbeth o’i le, ffoniwch eich adran gwasnaethau plant lleol neu’r NSPCC. Mae fy swyddfa hefyd yn gallu cynnig cyngor os nad ydych chi’n siwr beth i wneud gyda’ch pryderon. Mae ein manylion cyswllt ar ein gwefan.”