Anrhydedd i Rocio Cifuentes

2 Mehefin 2022

Mi fydd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, yn derbyn anrhydedd MBE fel rhan o Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaeth i gymdeithas yng Nghymru.

Yn ymateb i’r newyddion, dywedodd Rocio Cifuentes:

“Mae’r hyn wnaeth ddechrau fel stori bersonol iawn i fi a fy nheulu, yn cyrraedd Cymru fel ffoaduriaid o Chile, wedi troi mewn i bwrpas-bywyd i fi. Mae fy ngyrfa a ffocws fel gwirfoddolwr hyd yma wedi’i selio ar gefnogi rhai o bobl mwyaf bregus cymdeithas a’u galluogi i fod y newid mae nhw am weld yn y byd. Braint enfawr yw derbyn cydnabyddiaeth o’r fath am y gwaith yma. Er mwyn i’r gwaith fod yn llwyddiannus, mae’n rhaid derbyn help a chefnogaeth tîm ac felly dwi’n derbyn yr anrhydedd yma ar ran yr holl staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi fy nghefnogi hyd yma.

“Dyw fy ngwaith i roi llais i’r mwyaf bregus heb orffen eto. Dwi’n ffodus o gael yr anrhydedd o fod yn gomisiynydd plant y wlad am y saith mlynedd nesaf ac fe fyddai’n defnyddio’r cyfle i wir alluogi plant i rannu eu profiadau, i gael eu clywed ac i wthio am y newid sydd angen ac maen nhw’n dymuno gweld i amddiffyn eu hawliau.”