Dataganiad y Comisiynydd ar achos yn Abertyleri

23 Mai 2022

Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

 

“Mae hwn yn amlwg yn achos difrifol iawn sydd nawr yn cael ei ymchwilio gan yr heddlu.

“Mae taclo bwlio hiliol yn flaenoriaeth i fi fel Comisiynydd Plant. Rydw i eisiau gweithio gyda sefydliadau eraill, cyrff cyhoeddus, ac ysgolion i archwilio’r materion ehangach sydd yn ymwneud â bwlio hiliol, a sut gallwn ni gydweithio i fynd i’r afael ag e. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae fy swyddfa wedi helpu sicrhau bod canllawiau statudol newydd yn cynnwys cyfrifoldebau i fonitro mathau o fwlio, yn cynnwys os ydy hil yn ffactor. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud y cyfrifoldebau yma’n gliriach i ysgolion a byddwn ni’nparhau i ddylanwadu ar y canllawiau yma fel bod strategaethau gwrth-fwlio yn effeithiol.

“Ddylai neb profi bwlio neu gamdriniaeth oherwydd eu hil, ac mae hwn yn ein hatgoffa ni fel cyrff cyhoeddus bod gyda ni ddyletswydd i fynd i’r afael â’r mater hir-dymor yma.

“Mae’n rhaid bod Cymru yn lle diogel i bob plentyn.”