Angen targedau newydd tlodi plant, meddai Comisiynydd Plant Cymru

12 Mai 2022

Mae angen i Lywodraeth Cymru osod targedau newydd uchelgeisiol i leihau lefelau tlodi plant yng Nghymru, yn ôl y Comisiynydd Plant.

Dywedodd Rocio Cifuentes, yn wyneb lefelau tlodi plant uwch nag erioed yn y Deyrnas Unedig ac argyfwng parhaus costau byw, y byddai symud ymlaen heb gynllun gweithredu penodol, mesuradwy yn annerbyniol.

Dywedodd y comisiynydd y gallai’r argyfwng gael effaith drychinebus ar blant o bob rhan o Gymru, ac o bob cefndir. Ychwanegodd hefyd y gallai pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig a phlant anabl fod yn arbennig o agored i niwed.

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd y llynedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, pobl o aelwydydd Pacistani a Bangladeshi yn gyson oedd y mwyaf tebygol o’r holl grwpiau ethnig i fyw mewn aelwydydd incwm isel.

Yn 2019 amcangyfrifodd yr elusen Scope bod teuluoedd â phlant anabl yn wynebu costau ychwanegol o £581 y mis.

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu newydd ar dlodi plant i ddangos sut bydd yn targedu plant â chefnogaeth yn ystod y misoedd sy’n dod, a sut bydd y camau gweithredu hynny’n cyrraedd cymunedau sydd ar y cyrion yn ariannol.

Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud mwy i gefnogi teuluoedd, a beirniadodd y penderfyniad i ddod â’r ychwanegiad i Gredyd Cynhwysol i ben.

Hefyd cyhoeddodd y Comisiynydd, a gychwynnodd yn ei swydd fis diwethaf, ymgynghoriad cenedlaethol newydd i glywed am y materion sy’n fwyaf pwysig i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Argyfwng costau byw

“Rydyn ni’n gwybod bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith aruthrol ar blant a’u teuluoedd ar draws y wlad, ac y bydd hynny’n parhau. Mae’n mynd i effeithio ar blant o bob cefndir ac ym mhob cwr o Gymru. Bydd rhieni a phlant yn pryderu, ac yn awyddus i wybod beth yn union bydd y Llywodraeth yn ei wneud i’w helpu nhw.

“Beth hoffwn i weld mewn gwirionedd yw cynllun clir gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut byddan nhw’n targedu plant â chefnogaeth, sut byddan nhw’n gwrando ar deuluoedd, a sut byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w cefnogi drwy’r argyfwng hwn, fel bod modd i mi sicrhau eu bod yn cadw eu haddewidion. Mae angen gwirioneddol hefyd iddyn nhw sicrhau bod y gefnogaeth yn cyrraedd cymunedau rydyn ni’n gwybod sydd ddim bob amser yn draddodiadol yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol.

“Rwy’n gwybod bod llawer o deuluoedd ar draws Cymru wedi cael ad-daliad treth cyngor, ond yng nghyd-destun cynnydd na welwyd ei debyg mewn biliau cyfleustodau, prisiau tanwydd sy’n hanesyddol o uchel, a phoblogaeth sydd eisoes â’r lefelau uchaf o dlodi plant yn y Deyrnas Unedig, dyw hyn ddim yn ddigon i deuluoedd.

“Ar ben hynny, rydyn ni newydd fod trwy ddwy flynedd wirioneddol drawmatig sydd wedi cael effaith anghymesur o uchel ar blant o leiafrifoedd ethnig a phlant anabl, fel mae gwaith ymchwil fy swyddfa innau wedi dangos. Felly rydyn ni’n mynd o un argyfwng yn syth i un arall, ac mae’r ddau ohonynt wedi cael effaith arbennig o ddifrifol ar y grwpiau hynny, effaith a fydd yn parhau.

Polisïau’r Deyrnas Unedig gyfan

Tynnodd y Comisiynydd sylw hefyd at bolisïau ar draws y Deyrnas Unedig y mae hi’n dweud eu bod yn ychwanegu at y straen sydd ar deuluoedd.

“Roedd dileu’r cynnydd o £20 i Gredyd Cynhwysol yn ergyd aruthrol i deuluoedd. Does dim rhesymeg o gwbl o blaid gwneud hyn ar adeg pan fo teuluoedd mewn cymaint o angen. Wnaeth sefyllfa ariannol teuluoedd ddim gwella’n sydyn wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio; mae angen yr arian yma ar bobl nawr yn fwy nag erioed.

“Mae’r terfyn dau blentyn ar daliadau Credyd Cynhwysol yn fater arall pwysig. Mae plant mewn teuluoedd mwy yn cael eu cosbi am ddim rheswm, a hynny ar adeg pan fo llawer yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwyta.

“Rwy’n gobeithio cydweithio’n agos â’m cymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn parhau i herio’r Llywodraeth yn San Steffan ar y materion hyn, sy’n cael effaith aruthrol ar blant yng Nghymru.”

Gwrando ar blant

Dywedodd y Comisiynydd y byddai hi’n treulio ei misoedd cyntaf yn y swydd yn gwrando ar farn a phrofiadau plant a phobl ifanc, a barn rhieni a gweithwyr proffesiynol, ac mae disgwyl y bydd arolwg cenedlaethol yn yr hydref.

Ychwanegodd:

“Rwy’n cychwyn yn y swydd hon wedi cyfnod o amharu a chythrwfl sylweddol ym mywydau plant. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y tîm a minnau yn gwrando ar blant o bob rhan o Gymru i glywed beth sy’n fwyaf pwysig iddyn nhw, a beth hoffen nhw i mi fod yn ymladd drosto fel comisiynydd iddyn nhw. Bydd yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthyf fi yn dylanwadu ar sut bydd y tîm a minnau’n gweithio yn ystod y blynyddoedd sy’n dod.

“Wrth gwrs, mae materion sydd i’w gweld yn amlwg, fel argyfwng presennol costau byw, y mae dyletswydd ar y Llywodraeth yng Nghaerdydd a’r Llywodraeth yn Llundain i amddiffyn ein plant rhagddo.”