Ymateb y Comisiyndd i alwadau adolygiad o ofal cymdiethasol plant yng Nghymru

27 Ebrill 2022

Yn rhoi sylw ar alwadau am adolygiad o ofal cymdiethasol plant yng Nghymru, dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

“Gofal cymdeithasol plant yw un o’n gwasanaethau pwysicaf a mwyaf cymhleth, ac mae’n gwbl gywir bod cwestiynau’n cael eu gofyn yn barhaus er mwyn cadw ein plant bregus yn ddiogel. Dros y blynyddoedd mae’r heriau sy’n wynebu’r sector wedi cael llawer o sylw, gan gynnwys lefelau ariannu a baich gwaith uchel. Rhaid datrys y materion hyn er mwyn darparu’r gofal gorau i blant.

“Rwy’n deall y galwadau presennol am adolygiad o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, ond rwyf hefyd yn ymwybodol wrth gwrs bod y Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i drawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru; mae fy swyddfa yn cadw llygaid barcud ar hyn a byddem yn disgwyl cael cyfleoedd pellach i lunio a dylanwadu ar y cynigion a gyflwynir, ynghyd â sefydliadau perthnasol eraill a phlant a theuluoedd. Gallai adolygiad dynnu sylw at faterion newydd, ond gallai hefyd ohirio’r newidiadau y byddem yn disgwyl eu gweld fel rhan o waith presennol y Llywodraeth.

“Yr wythnos hon byddaf yn ysgrifennu at y Llywodraeth, y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, BASW Cymru, ac eraill i glywed eu barn uniongyrchol ac i ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen ar y mater cymhleth hwn fel fod gyda ni gyd hyder yn y system sydd yno i amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.”