Comisiynydd Plant ymadawol yn galw am ddatganoli mwy o fudd-daliadau i Gymru

4 Ebrill 2022

Gallai datganoli budd-daliadau lles ymhellach gael effaith fawr ar lefelau tlodi plant yng Nghymru, yn ôl y Comisiynydd Plant ymadawol, yr Athro Sally Holland, a fydd yn ymadael â’i swydd ar 14 Ebrill.

Mewn darlith ar-lein a fydd yn cael ei darlledu o’r Senedd ar 4 Ebrill, bydd y Comisiynydd Plant yn dweud y gallai symud mwy o bwerau dros fudd-daliadau o Lundain i Fae Caerdydd gael effaith gadarnhaol ar iechyd ac addysg plant hefyd.

Bydd ei sgwrs eang yn canolbwyntio ar yr hyn y mae 20 mlynedd o ddatganoli wedi’i gyflawni i blant yng Nghymru.

At ei gilydd, bydd yn dweud bod plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi ennill rhai hawliau cyfreithiol pwysig na fyddant wedi’u cael heb ddatganoli. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i bleidleisio’n 16 oed, yr un diogelwch cyfreithiol ag oedolion rhag cosbau corfforol, eithrio ymadawyr gofal rhag gorfod talu’r dreth gyngor, a diwygiadau cadarnhaol i’r cwricwlwm.

Ond, yn ôl y Comisiynydd, ni fu unrhyw fanteision sylweddol hyd yn hyn o ran deilliannau mesuradwy i blant, mewn meysydd pwysig fel tlodi plant.

Bydd y Comisiynydd yn myfyrio hefyd ar yr angen am lefelau uchel o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus i blant ar ôl y pandemig.

Rhwystredigaeth o ran budd-daliadau

Bu’r Comisiynydd Plant yn feirniad hirdymor o derfyn 2 blentyn Llywodraeth y DU ar Gredyd Cynhwysol, sy’n gosod cap o ddau blentyn ar faint o arian y mae teuluoedd yn ei gael fesul plentyn. Yn ôl y Comisiynydd, dyma un o’r achosion mwyaf o dorri hawliau plant gan unrhyw Lywodraeth yn y DU yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

Bydd hefyd yn tynnu sylw at y cyfnodau aros hir am daliadau cyntaf a thynnu’r ymgodiad o £20 yn ddiweddar fel tystiolaeth o system nad yw’n bodloni anghenion teuluoedd.

Mae budd-dal plant, y mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru yn gymwys i’w gael, wedi cynyddu llai na phunt yr wythnos er 2011, felly nid yw wedi cadw i fyny â’r cynnydd mewn costau byw.

Mae dadansoddiad diweddar[1] yn awgrymu y byddai Cymru mewn sefyllfa dda i ailddosbarthu mwy o incwm i deuluoedd â phlant pe byddai gan Lywodraeth Cymru yr un pwerau dros fudd-daliadau â’r Alban. Mae’r Alban wedi cyflwyno taliadau plant ychwanegol i deuluoedd ag incwm isel sy’n debygol o leihau tlodi plant ymhellach.

Cyfiawnder ieuenctid

Nid yw cyfiawnder ieuenctid wedi’i ddatganoli ar hyn o bryd, ond mae’r strategaeth a’r protocol cyfredol ar gyfer lleihau troseddoli pobl ifanc yng Nghymru wedi’u llunio ar y cyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru.

Ledled y DU, bu gostyngiad sylweddol yn nifer y plant yn y ddalfa er 2010, ac mae’r gyfradd yng Nghymru wedi disgyn ar gyfradd hyd yn oed uwch nag yn Lloegr. Yn 2010, roedd 116 o blant yn y ddalfa yng Nghymru, o gymharu ag 11 yn unig ym mis Ionawr 2022.

Yn ôl y Comisiynydd, dylai cyfiawnder ieuenctid gael ei ddatganoli ymhellach i Gymru er mwyn i Lywodraeth Cymru a chyrff perthnasol eraill yng Nghymru allu adeiladu’n gynhwysfawr ar eu gwaith cadarnhaol dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Effeithiau’r pandemig

Wrth gau ei darlith, bydd y Comisiynydd yn dweud, beth bynnag yw’r sefyllfa o ran pwerau datganoledig dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae effaith barhaus y pandemig yn golygu ein bod mewn argyfwng o hyd o ran plant, a bod angen cyllid i gyfateb i’r argyfwng hwnnw.