Urdd yn croesawu ffoaduriaid o Wcrain

21 Mawrth 2022

Yn ymateb i benderfyniad yr Urdd i gynnig lloches i ffoaduriaid o Wcrain, dywedodd Sally Holland:

“Wrth i’r sefydliad ddathlu can mlwyddiant, dyma ni’n gweld yr Urdd yn gwneud beth mae’n gwneud orau – cefnogi plant a phobl ifanc i fwynhau a chael mynediau i’w hawliau mewn amgylchedd sy’n gryumuso ac sy’n ddiogel. Mae hyn yn gam ymlaen o’r gwaith ysgubol wnaethon nhw yn croesawi a chefnogi ffoaduriaid o Affganistan; mae nhw nawr am gynnig lloches ddiogel arall i blant a’u teuluoedd sy’n ffou rhyfel. Dwi wedi gweld safon eu gwaith gyda ffoaduriaid gyda’m llygaid fy hun. Dwi’n siwr y bydd plant a phobl ifanc ar draws Cymru sydd wedi trafod gyda fi am eu dyhead i helpu eu cyfoedion o Wcrain yn falch iawn o beth mae eu sefydliad ieuenctid hwythau, yr Urdd, yn gwneud nawr i estyn llaw o gefnogaeth a chroeso twymgalon Cymreig i deuluoedd o Wcrain.”