Amddiffyniad Cyfartal – Comisiynydd yn croesawu’r newid hanesyddol

21 Mawrth 2022

Yn ymateb i’r ffaith fod cosbi plant yn gorfforol nawr yn anghyfreithlon yng Nghymru, dywedodd Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Dwi wrth fy modd heddiw yn deffro mewn gwlad sy’n rhoi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Mae hawliau plant i ddiogelwch, iechyd ac i gyrraedd eu llawn botensial yn cael blaenoriaeth ac amddiffynfa glir, diamwys heddiw.

“Mae’r newid yma yn gweld Cymru’n ymuno â dros 60 o wledydd ar draws y bydd sydd wedi cryfhau’r ddeddf i blant yn barod, ac mae’n adlewyrchu’r newid diwylliannol sydd wedi cyflymu dros y blynyddoedd diweddar. Fel oedolion dydyn ni ddim yn derbyn trais corfforol mewn unrhyw agwedd o’n bywydau ac fel cenedl, rydyn ni’n gwbwl glir heddiw ein bod ni ddim yn ei dderbyn ym mywydau’n plant chwaith.

“Dwi’n teimlo balchder mawr bod y ddeddfwriaeth arwyddocaol yma wedi llwyddo o ganlyniad i weithio mewn partneriaeth. Mae wedi bod yn gymaint o bleser gweld gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o iechyd i’r heddlu, uwch arweinwyr crefyddol i’r sector wirfoddol, yn gweithio fel un ar hyn.

“I fi’n bersonol, dwi wedi bod yn ymgyrchu am y newid yma ers blynyddoedd ac wedi ymrwymo i weld y newid yma’n digwydd yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd Plant Cymru. Fel llawer o newidiadau mawr, mae wedi cymryd cryn amser i weld y ddeddf yn dod i fodolaeth, ond wrth i mi orffen fel Comisiynydd, dwi’n hapus iawn fod Cymru wedi blaenoriaethu hawliau plant mewn ardal lle, cyn heddiw, nid oedd plant yn cael eu trin yn gyfartal.”