Teyrnged y Comisiynydd Plant i Aled Roberts

14 Chwefror 2022

Yn talu teyrnged i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Roedd Aled yn eiriolwr penigamp dros blant, dros hawliau plant a dros hawliau ieithyddol plant. Fel cyd-gomisiynydd, roedd e’n gyd-weithiwr ffyddlon oedd yn heriol a chefnogol, ac yn ffrind da i fi a fy swyddfa. Dwi’n drist iawn o glywed y newyddion am ei farwolaeth a dymunaf ddanfon cydymdeimladau dwysaf at ei deulu a’i dîm.”