Comisiynydd yn ymateb i adroddiad diweddaraf IICSA

2 Chwefror 2022

Yn ymateb i adroddiad IICSA a chafodd ei gyhoeddi ar 1 Chwefror, dywedodd Yr Athro Sally Holland:

“Does dim lle ar gyfer camfanteisio’n rhywiol ar blant yn ein cymdeithas.

“Mae’r materion o fewn yr adroddiad yma yn dangos maint a chymhlethdodau’r niweidiau mae plant hyglwyf yn gallu eu hwynebu.

“Ond mae’r adroddiad hefyd yn trafod diffygion clir: casglu data; diffiniad clir a chyson o gam-drin plant cyfundrefnol; a chydnabod bod y gamdriniaeth hon yn realiti i rai o’n plant mwyaf hyglwyf.

“Bydda i’n gofyn am ddiweddariad  gan bob Heddlu ac asiantaeth berthnasol yng Nghymru ar y camau sy’n cael eu cymryd o ganlyniad i’r adroddiad. Ddylai dim plentyn profi’r hyn mae’r plant yma wedi.”

DIWEDD