Ymateb i adroddiad Estyn – Comisiynydd Plant

8 Rhagfyr 2021

Yn ymateb i adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol, dywedodd yr Athro Sally Holland:

“Rydw i eisiau diolch i’r bobl ifanc sydd wedi rhannu eu profiadau fel rhan o’r adroddiad yma. Mae angen i bobl ifanc wybod bod aflonyddu rhywiol byth yn dderbyniol ac yn rhywbeth ddylsai gael ei gymryd o ddifrif bob amser. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i sicrhau fod gan weithwyr proffesiynol gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, a chefnogi lleoliadau addysg i ddatblygu ffyrdd ysgol-gyfan i helpu atal aflonyddu rhywiol a chefnogi hawliau pobl ifanc. Er dweud hyn, nid problem ysgolion a cholegau yn unig yw hwn, a dylwn ni ddim edrych iddyn nhw i ddatrys problem enfawr gymdeithasol ar eu pennau eu hunain. Mae diwylliant ysgol o hyd yn adlewyrchu cymdeithas; mae hwn yn broblem i bawb.

“Ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod plant yn dechrau dysgu yn ifanc am gynnal perthnasau gyda pharch a chydraddoldeb. Mae rhai yn dweud mai materion i’r cartref yw’r rhain, ond dylai’r adroddiad yma fod yn arwydd mawr i bawb bod addysg orfodol cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol i iechyd ein gwlad.”